Ar 13 Chwefror 1923 am 5pm, dechreuodd y 成人论坛 ddarlledu yng Nghymru pan agorodd y British Broadcasting Company (fel oedd bryd hynny) ei orsaf yng Nghaerdydd. Yn fuan wedi hynny, ym mis Rhagfyr 1924, agorodd y cwmni orsaf yn Abertawe. Yn 1927, newidiodd yr enw i British Broadcasting Corporation ac o fewn tair blynedd, roedd y gorsafoedd yng Nghymru yn rhan o’r ‘Rhanbarth Gorllewinol’.
Yn yr 1930au, roedd nifer o bobl yng Nghymru eisiau gweld Rhanbarth Gymreig ar wahân, i ddarparu rhaglenni yn Saesneg a Chymraeg i gynulleidfa Cymru. Yn dilyn ymgyrch hirfaith, cafodd y trosglwyddydd ym Mhenmon ei agor yn Chwefror 1937, sef dechrau swyddogol y Rhanbarth Gymreig. Ym mis Gorffennaf, daeth cyfarwyddwr cyffredinol y 成人论坛, Syr John Reith, ar ymweliad i Gaerdydd ar gyfer seremoni agoriadol y Rhanbarth.
Yn ystod y rhyfel, cafodd gwasanaethau rhanbarthol y 成人论坛 eu cau. Ond rhwng mis Hydref 1940 a mis Awst 1943, roedd yr adran adloniant wedi ei leoli yn y stiwdios ym Mangor. O ganlyniad, doedd hi ddim yn anarferol i weld sêr fel Tommy Handley ac Arthur Askey yn crwydro strydoedd y ddinas!
Yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel, wrth iddi ddod yn glir mai’r teledu fyddai’r prif gyfrwng ar gyfer rhannu gwybodaeth, addysg ac adloniant, daeth mwy o alw ar i Gymru gael ei gwasanaeth teledu ei hun. Cafodd pwyllgor ei greu gan y llywodraeth i drafod dyfodol darlledu yn y DU yn 1960, a dyma oedd y trobwynt o ran darlledu yng Nghymru.
Roedd nifer o bobl yn poeni am effaith y teledu ar yr iaith, diwylliant a ffordd o fyw Cymraeg. Dyma oedd beth oedd gan Urdd Gobaith Cymru i’w ddweud am y mater: ‘Mae hi’n amlwg mai’r unig ateb yw i drin Cymru fel uned, i’w hysgaru oddi wrth ranbarthau eraill ac i roi iddi’r parch mae cenedl yn ei haeddu. Mae hyn yn golygu gwasanaeth deledu sydd yn ymdrin â’r wlad i gyd yn ddigonol, yn darparu rhaglenni o bob math yn Gymraeg a Saesneg, yn ystod amseroedd gwylio cyfleus’.
Nid oedd pawb o’r un farn, fodd bynnag! Ym mis Ionawr 1962, ysgrifennodd Mr J. E. Roberts o Benygroes gen Caernarfon at y Western Mail i ategu’r pwynt fod yna gysylltiad gref rhwng gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr. ‘Advocates of an all-Welsh TV are a real menace’ meddai. Aeth ymlaen i ddweud: ‘It is things such as this that make us in north Wales hope and pray that we shall never come under any system of all-Wales TV. It would be ruinous. For the north of England regional news interests us exceedingly, but the south Wales news not at all.’
Pan gafodd adroddiad y pwyllgor ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 1962, un o’r datganiadau pwysicaf o safbwynt datblygiad teledu Cymreig oedd ‘the first priority should be given to separating the 成人论坛’s service to Wales from that to the English regions…’ Roedd y llwybr, felly, wedi ei gosod i sefydlu 成人论坛 Cymru Wales yn 1964.
1960au
Cafodd 成人论坛 Cymru Wales ei lansio ar 9 Chwefror 1964. Cyn hynny, roedd ymgyrch hyrwyddo fawr, a oedd yn annog gwylwyr i wylio’r gwasanaethu teledu newydd ac yn cyhoeddi ar gân fod ‘Cymru yn cael ei gwasanaeth teledu ei hun yn 1964!’. Roedd hefyd ffilm fer wych yn egluro beth i’w wneud i’r set deledu er mwyn derbyn y gwasanaeth newydd.
Roedd yn darparu 12 awr o raglenni yr wythnos (pump awr o rai Saesneg a saith o rai Cymraeg), ac yn dewis peidio â darlledu rhaglenni rhwydwaith y DU yn ystod oriau gwylio cyffredin, yn hytrach na gorfod darlledu rhaglenni pan fo rhwydwaith y DU wedi ei diffodd, fel oedd wedi digwydd yn y gorffennol. Roedd hyn yn golygu nad oedd rhaid i wylwyr Cymraeg eu hiaith bellach wylio rhaglenni dros amser cinio ar ddydd Sul neu yn hwyr yn y noson.
Daeth y gwasanaeth yn fuan yn rhan hanfodol o fywydau gwylwyr teledu Cymru. Roedd hyn yn wir am nifer o resymau, yn arbennig oherwydd y rhaglenni newyddion dyddiol, Wales Today a Heddiw. Roedd rhaglenni materion cyhoeddus fel Week In Week Out a Cywain hefyd yn fan i gael trafod materion Cymreig. Roedd hyn yn bwysig iawn, yn enwedig oherwydd y newidiadau gwleidyddol ar y pryd. Ym mis Hydref 1964, cafodd yr AS dros Lanelli, Jim Griffiths, ei benodi fel yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru cyntaf gan y Llywodraeth Llafur. Gwnaeth hyn, ynghyd â sefydlu’r Swyddfa Gymreig, olygu fod trafodaeth yngl欧n â gwleidyddiaeth Cymru yn dod yn fwy amlwg o fewn a thu hwnt i’r wlad, ac roedd rhaglenni newyddion a materion cyhoeddus 成人论坛 Cymru yn barod i ddarparu fforwm ar gyfer y drafodaeth a’r ddadl honno.
Derbyniodd y gwasanaeth newyddion ei her fwyaf gyntaf ym mis Hydref 1966 yn ystod trychineb Aberfan. Roedd gohebwyr fel Brian Hoey yn y fan a’r lle yn cyfweld â llygad-dystion ac yn gohebu ar y digwyddiad ofnadwy. Yn ôl un gohebydd oedd yna, ‘Dyma’r dydd y daeth newyddion i oed yng Nghymru’.
Yn hydref 1966, symudodd 成人论坛 Cymru i’w bencadlys newydd yn Llandaf ac fe gafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol ar Ddydd G诺yl Dewi yn 1967 gan y Dywysoges Margaret. Tan y pwynt yma, roedd adeiladau gwahanol yn ac o amgylch Caerdydd wedi cael eu defnyddio i gynhyrchu rhaglenni Cymru, ond nawr, roedd y rhan fwyaf o weithgareddau Cymreig y gorfforaeth yn cael eu cynnal o dan un to y Ganolfan Ddarlledu newydd.
Daeth y ddegawd i ben gydag un o’r darllediadau allanol mwyaf gan 成人论坛 Cymru, sef arwisgiad y Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Cafodd y rhaglen, gyda sylwebaeth gan Richard Barker ac Emlyn Williams, gynulleidfa o dros 500 miliwn o bobl ar draws y byd.
1970au
Mae rhai pobl yn ystyried yr 1970au fel cyfnod ‘tawel’ yn hanes teledu – cyfnod ble na ddigwyddodd rhyw lawer. Yng Nghymru, fodd bynnag, roedd y byd darlledu yn llawer fwy prysur. Yn yr 1970au, roedd mwy o weithgareddau gan grwpiau cenedlaetholgar diwylliannol a gwleidyddol, fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru. Roedd mwy o alw am wasanaeth teledu gyfan gwbl Gymraeg, ac o ganlyniad, daeth argymhellion i sefydlu pedwaredd sianel yng Nghymru, â hynny o flaen gweddill y DU.
Darlledwyd y rhaglen lliw cyntaf gan 成人论坛 Cymru yn 1970, sef adroddiad o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf. I nifer, yr 1970au oedd ‘oes euraidd’ teledu, a does dim amheuaeth fod 成人论坛 Cymru wedi chwarae rhan yn hyn. O ran comedi teledu, roedd Ryan Davies a Ronnie Williams yn diddanu cynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar rwydwaith 成人论坛 One. Roedden nhw’n cael eu galw’n ‘Morcambe and Wise’ Cymru o ganlyniad i’w talentau comedi unigryw, athrylithgar.
Blodeuodd dramâu teledu gan 成人论坛 Cymru hefyd yn ystod y saithdegau. Yn Hydref 1974, cafodd yr opera sebon, Pobol y Cwm ei lansio – sef yr opera sebon gan y 成人论坛 sydd wedi bod ar y teledu hiraf (a’r ail un hiraf yn y DU). Gweledigaeth pennaeth drama 成人论坛 Cymru, John Hefin, oedd y rhaglen, a bu’n llwyddiant yn syth. Deugain mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’n parhau i fod yn boblogaidd. Hefin, gyda’r dramodydd Gwenlyn Parry, oedd awdur a chyfarwyddwr un o’r ffilmiau mwyaf eiconig gan 成人论坛 Cymru yn ystod y ddegawd honno, sef Grand Slam. Roedd yn stori ddoniol, eithaf coch ar adegau, am daith rygbi i Baris, gyda Dewi ‘Pws’ Morris, Hugh Griffiths a Windsor Davies yn serennu. Cafodd ei darlledu ar rwydwaith y DU, ac i nifer, mae’n crisialu diwylliant rygbi Cymru y cyfnod.
Bu datblygiad pwysig i wasanaeth radio 成人论坛 Cymru yn ystod y saithdegau hefyd. Am nifer o flynyddoedd, roedd y rhanbarth wedi bod yn darparu cynnwys i radio rhwydwaith y 成人论坛, yn enwedig yr ‘Home Sevice’, ynghyd â Radio 4 o 1967 hyd nes i wasanaeth radio’r 成人论坛 gael ei ad-drefnu. Yn 1977, roedd modd dewis peidio â darlledu rhaglenni rhwydwaith ar Radio 4, a’r flwyddyn ganlynol, cafodd dwy orsaf radio genedlaethol eu lansio, sef Radio Wales a Radio Cymru. Gwnaeth y ddwy orsaf eu marc, a bellach maen nhw’n rhan ganolog o’r tirlun darlledu yng Nghymru.
1980au
Yn ystod blynyddoedd cyntaf yr wythdegau, y prif ddigwyddiad yng Nghymru oedd sefydlu Sianel Pedwar Cymru (S4C). Roedd y 成人论坛 wedi bod yn rhan o’r drafodaeth i sefydlu’r sianel o’r dechrau, ac o dan Ddeddf Darlledu 1980, roedd yn rhaid iddo gynhyrchu tua 10-11 awr o raglenni yr wythnos i’r sianel newydd. Roedd hyn yn gynnydd aruthrol i 成人论坛 Cymru, o gofio mai 6-7 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg oedd wedi cael eu cynhyrchu tan hyn. Roedd y rhaglenni yn cyfrif am tua hanner cynnwys y sianel, gyda’r rhaglenni eraill yn cael eu cynhyrchu gan ddarlledwr ITV dros Gymru, sef HTV, a’r sector gynhyrchu annibynnol gymharol ifanc. Newyddion oedd y rhan fwyaf o gynnwys rhaglenni’r 成人论坛 (sef y rhaglen nosweithiol Newyddion 7) a’r opera sebon, Pobol y Cwm. Cymerodd gynhyrchwyr y rhaglen boblogaidd gam dewr ym mis Medi 1988 drwy gychwyn darlledu’n ddyddiol - yr opera sebon gyntaf yn y DU i wneud hynny. Yn 1994, cafodd ei dangos ar deledu rhwydwaith gydag isdeitlau Saesneg am gyfnod byr, arbrofol.
Wrth gwrs, roedd y newid ym mhatrwm teledu yng Nghymru yn golygu mai dim ond rhaglenni Saesneg oedd yn cael eu darlledu ar wasanaeth teledu 成人论坛 Cymru Wales bellach. Roedd hyn yn ryddhad i nifer o bobl di-Gymraeg a oedd, ers blynyddoedd, wedi cwyno fod rhaid iddyn nhw wylio rhaglenni mewn iaith nad oedden nhw’n ei deall!
Un o’r llwyddiannau mwyaf yn y Saesneg yn yr wythdegau oedd The Life and Times of David Lloyd George a gafodd ei gynhyrchu gan 成人论坛 Cymru. Cafodd y gyfres ei hysgrifennu gan Elaine Morgan a’i chyfarwyddo gan John Hefin. Roedd yn cael ei darlledu ar draws y DU ar rwydwaith 成人论坛 One a derbyniodd ganmoliaeth uchel. Wedi hynny, daeth mwy o gyfresi ar y rhwydwaith, fel addasiad o nofel Alun Richards Ennal’s Point gyda Philip Madoc yn 1982 a The District Nurse, gyda Nerys Hughes yn 1984.
Roedd Streic y Glowyr yn 1984-5 yn peri her i 成人论坛 Cymru – fel i weddill y gorfforaeth – wrth iddo ceisio llywio drwy ddadleuon cymhleth a theimladwy. Drwy wneud hynny, amlygodd bwysigrwydd rôl darlledwr cenedlaethol i ddarparu platfform yn ystod cyfnod anodd a chythryblus iawn, yn arbennig i dde Cymru.
Daeth y ddegawd i ben gyda newid arall i ddarlledu, a gyda theledu digidol ar y gorwel, roedd pethau ar fin dod yn gystadleuol iawn.
1990au
Gallwch grynhoi’r 1990au fel degawd o newidiadau mawr yn y diwydiant darlledu yn y DU. O ganlyniad i gystadleuaeth oddi wrth sector deledu fasnachol a oedd wedi ei dadreoli, a thyfiant yng nghwmni teledu lloeren, Sky, roedd rhaid i’r 成人论坛 addasu i’r amgylchedd newidiol. Wrth i nifer y sianeli gynyddu ac i oed y teledu aml-sianel wir ddod i rym, yr her i 成人论坛 Cymru oedd i gadw’i safle fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, gyda’r nod glir o adlewyrchu Cymru mewn amserlen deledu a oedd yn brysur lenwi.
Tra bod teledu yn dod yn fwy byd-eang yn ystod y ddegawd, beth oedd o ddiddordeb yn yr 1990au hwyr oedd y shifft tuag at ddatganoli gwleidyddiaeth. Roedd mwy a mwy o rwystredigaeth fod lleisiau o genhedloedd y DU ddim o reidrwydd yn cael eu clywed ar rwydwaith y DU. Mae Menna Richards, cyn Reolydd 成人论坛 Cymru, wedi trafod y blaenoriaethau croes a oedd yn cael eu trafod – creu cynnyrch ar gyfer y gynulleidfa neu geisio cael effaith ar rwydwaith y DU. Ei hawgrym yw, mewn gwirionedd, nad oes blaenoriaethau croes; mae’n rhaid i’r darlledwr fynd i’r afael â’r ddwy elfen. Er fod 成人论坛 Cymru wedi ceisio gwneud hyn, roedd cynyrchiadau Cymreig ar rwydwaith y 成人论坛 yn brin yn ystod y nawdegau. Yng Nghymru, lansiodd y 成人论坛 nifer o gyfresi drama yn Saesneg. Roedd dau ohonyn nhw, Satellite City a Belonging yn boblogaidd iawn ymysg cynulleidfa Cymru. Yn dilyn sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, roedd rhaid i 成人论坛 Cymru adlewyrchu newid ar dirlun gwleidyddol y genedl. O ganlyniad i ddatganoli, daeth cynnydd mewn rhaglenni gan genhedloedd y DU a buddsoddodd y 成人论坛 llawer mewn rhaglenni o Gymru a sicrhau lle yn amserlen rhwydwaith y 成人论坛 ar gyfer rhaglenni drama, cerddoriaeth a ffeithiol Cymreig.
Daeth 成人论坛 Cymru yn fwy amlwg ar y we drwy lansio ei dudalennau gwe ei hun yn 1997 a chreu cyfle am fwy o ddatblygiadau digidol yn y mileniwm newydd. Roedd datganiad ar wefan 成人论坛 Cymru yn 1998 yn nodi: ‘成人论坛 Cymru Wales yw’r unig ddarlledwr sydd yn cynhyrchu gwasanaethau yn Saesneg a Chymraeg ar gyfer radio, teledu ac ar-lein, sydd yn adlewyrchu bywyd a thalentau amrywiol Cymru mewn rhaglenni sydd wedi eu dylunio yn arbennig ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru.’
2000 ymlaen
Yn ystod y ddegawd hon, ymunodd 成人论坛 Cymru â’r byd digidol newydd mewn modd fawr iawn. Wedi iddo fod yn rhan o lansiad 成人论坛 Choice yn 1998, gydag amrywiad rhanbarthol ar gyfer Cymru, lansiodd 成人论坛 Cymru ei sianel ddigidol ei hun yn 2001, sef 成人论坛2W. Roedd yn dewis peidio â dangos rhaglenni rhwydwaith 成人论坛 TWO yn ystod y nosweithiau, ac yn lle yn darparu rhaglenni yn Saesneg am Gymru ar nifer o destunau. Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i ddod yn ddigidol yn 2010, ac roedd 成人论坛 Cymru ar flaen y gad. Profodd cyfresi mawr, fel Coal House yn 2007, pa mor boblogaidd y gallai rhaglenni aml-gyfrwng fod, gan ei gwneud hi’n bosib i’r gynulleidfa gysylltu â’r gyfres ar ôl iddo gael ei darlledu.
Efallai mai gyda’r mathau yma o raglenni mae 成人论坛 Cymru wedi cael y llwyddiant mwyaf. Cafodd Doctor Who ei ail-lansio gan 成人论坛 Cymru Wales yn 2005, er nad oedd wedi bod ar deledu Prydeinig ers 1989. Dychwelodd y gyfres o dan ofal y cynhyrchwyr gweithredol Russel T Davies, a Phennaeth Drama 成人论坛 Cymru, Julie Gardner, a bu’n llwyddiant yn syth. Mae cyfresi rhwydwaith mawr fel Torchwood, Merlin, Atlantis a Casualty oll yn cael eu cynhyrchu yng Nghaerdydd ac â stamp 成人论坛 Cymru Wales ar ddiwedd y rhaglen. Mae’r datblygiadau diweddar yn ac o amgylch Porth y Rhath yn dyst o ymrwymiad 成人论坛 Cymru i gynhyrchu dramâu – nid yn unig i’r rhwydwaith ond hefyd i gynulleidfa cenedlaethol Cymru.
Un llwyddiant ysgubol arall yw’r rhaglen noir Nordig Hinterland/Y Gwyll a gafodd ei darlledu ar S4C yn 2013 ac ar 成人论坛1 Wales a 成人论坛4 yn 2014. Roedd yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng 成人论坛 Cymru, Fiction Factory, S4C ac eraill ac wedi ei lleoli yn Aberystwyth a’r ardal. Mae’n amlygu’r potensial dyfeisgar a chyffrous o adlewyrchu Cymru ar y sgrin ble mai’r olygfa, yn ei hanfod, yw’r stori.
Am hanner canrif, mae 成人论坛 Cymru wedi dangos a thrafod bywyd yng Nghymru. Mae wedi darparu gofod gyhoeddus i bob cornel y genedl. Mae wedi gwneud hynny drwy ystod o raglenni, o newyddion a materion cyfoes, i grefydd a drama. Fel gafodd ei ddweud rywbryd; mae wedi dal drych ar gymdeithas yng Nghymru, ar y radio, teledu a nawr ar nifer o blatfformau digidol. Mae John Davies, arbenigwr ar hanes Cymru, wedi dadlau fod Cymru yn arteffact, wedi ei greu gan ddarlledu. Does dim amheuaeth fod 成人论坛 Cymru Wales wedi chwarae rôl bwysig wrth greu’r arteffact hwnnw ac y bydd yn parhau i wneud hynny am beth amser eto.