³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ Addysg

Mae addysg i bawb yn ganolog i genhadaeth a dibenion y ³ÉÈËÂÛ̳. Ein gweledigaeth fel ³ÉÈËÂÛ̳ Education yw trawsnewid bywydau drwy addysg.

Beth rydym yn ei wneud

Rydym yn comisiynu ac yn cynhyrchu adnoddau Cymraeg a Saesneg ar gyfer ³ÉÈËÂÛ̳ Bitesize, ³ÉÈËÂÛ̳ Teach ac ymgyrchoedd addysg. ³ÉÈËÂÛ̳ Bitesize ydy ein gwefan addysgol flaengar sy’n cynnig adnoddau i blant rhwng 3–16 oed ddysgu gartref a hunan-astudio, ac mae’r rheiny wedi’u cymeradwyo’n addysgol ac yn berthnasol i’r cwricwlwm. Dechreuodd ym 1999 fel adnodd TGAU ac mae bellach yn cynnwys dros 20,000 o dudalennau gwe o gynnwys sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac oedran ysgol yn Gymraeg a Saesneg. Mae gennym hefyd sianeli cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter, Instagram a TikTok), gemau a chynnwys ategol sy’n cynnwys pecyn cymorth i rieni er mwyn helpu gydag iechyd a lles. Ein cenhadaeth yw helpu pob plentyn a pherson ifanc yn y DU i gyflawni eu potensial o ran dysgu.

Mae ³ÉÈËÂÛ̳ Teach yn safle adnoddau addysgu pwrpasol sy’n ceisio cefnogi athrawon drwy guradu’r gorau o blith fideos, clipiau ac adnoddau eraill y ³ÉÈËÂÛ̳ sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Rydym hefyd yn cyflwyno rhaglenni sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm drwy ³ÉÈËÂÛ̳ Teach a Live Lessons, gan fynd i’r afael â diffygion cymdeithasol ac addysgol yn y DU drwy weithredu fel arweinydd partneriaethau strategol sydd â’r nod o sicrhau newid gwirioneddol.

Pwy ydyn ni? 

Nia M Davies

Nia M Davies - Pennaeth Addysg
Nia M Davies - Pennaeth Addysg

Beth sydd ar gael?

Rydym yn comisiynu animeiddiadau a ffilmiau byr ar gyfer amrywiaeth o bynciau yn ogystal â chynnwys ysgrifenedig, graffeg, a rhywfaint o gynnwys rhyngweithiol. Fel arfer, bydd briff ³ÉÈËÂÛ̳ Education yn gofyn am fformat cynnwys penodol ar draws un maes ffocws. Mae’r dogfennau tendro, sy’n gymysgedd o friffiau dros e-bost ond a gyhoeddir yn bennaf ar y wefan gomisiynu, yn nodi cyfres benodol o bethau i’w cyflawni yn erbyn yr amcanion dysgu addysgol y cytunwyd arnynt.

Yn ogystal â chyfleoedd comisiynu a hysbysebir, mae gennym bob amser ddiddordeb mewn clywed syniadau newydd a all helpu gyda’n hymrwymiad i ddarparu adnoddau addysgol o safon. Dim ond ar dudalen A4 y bydd angen i’r syniadau damcaniaethol hyn gael eu cyflwyno, a rhaid ymdrin â'r maes pwnc, y grŵp oedran targed/cyfnod allweddol ac esboniad byr o anghenion y cwricwla. Dylid e-bostio’r rhain at y comisiynydd addysg yng Nghymru yn y lle cyntaf, sef Nia M Davies.

Ein canllawiau comisiynu amrywiaeth a chynhwysiant

Mae canllawiau comisiynu amrywiaeth a chynhwysiant ³ÉÈËÂÛ̳ Education yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant. Darllenwch y canllawiau hyn wrth ymateb i unrhyw un o’n briffiau comisiynu.

 

Comisiynau Bitesize Cymru 2024/25

YMESTYN DYDDIAD CAU: Briffiau ³ÉÈËÂÛ̳ Bitesize - Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg

Mae ³ÉÈËÂÛ̳ Bitesize wedi cyhoeddi nifer o gyfleoedd i greu cynnwys ffurf fer i gefnogi disgyblion 8-11 ac 11-14 oed sy'n astudio'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Lawrlwythwch y briffiau isod.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer syniadau wedi ei ymestyn tan 10yb ar 13 Medi 2024.

Brîff A: Cam Cynnydd 3 (disgyblion 8-11 oed)

Lawrlwythwch brîff A (Word) (dogfen Saesneg)

Brîff B: Cam Cynnydd 3 (disgyblion 8-11 oed)

Lawrlwythwch brîff B (Word) (dogfen Saesneg)

Brîff C: Cam Cynnydd 4 (disgyblion 11-14 oed)

Lawrlwythwch brîff C (Word) (dogfen Saesneg)

Brîff D: Cam Cynnydd 4 (disgyblion 11-14 oed)

Lawrlwythwch brîff D (Word) (dogfen Saesneg)

 

Mae modd gweld holl gyfleoedd comisiynu ³ÉÈËÂÛ̳ Addysg ledled y DU ar wefan ³ÉÈËÂÛ̳ Education commissioning (cynnwys Saesneg).

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: