Dibynnu gormod ar bwrs y wlad?
Beth mae rhywun i'w wneud tybed o'r hyn sy'n cael ei ddweud y dyddiau hyn am nawdd i bethau Cymraeg?
Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw hi i fwy nag un godi amheuon yn ddiweddar fod gweithgareddau Cymraeg fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn or ddibynnol ar arian cyhoeddus - er bod yr Eisteddfod ei hun yn gwadu hynny.
Ond pan fo'r Gweinidog Diwylliant yn y Cynulliad yn lleisio'r fath farn mae'n amser cymryd sylw.
Go brin mai yn ddifeddwl y dywedodd Alun Ffred Jones AC beth fel hyn ar Pawb a'i Farn yn ddiweddar:
"Yr ydym mewn peryg yn y Gymru Gymraeg o feddwl mai grant ydi popeth - os yda ni eisiau cynnal rhywbeth yn Gymraeg, wel, ryda ni eisiau grant i'w wneud o fel tasa dim byd yn medru cynnal ei hun - a dwi'n meddwl fod hwnna'n ffordd beryglus iawn o fynd."
Bosib mai'r hyn sy'n rhoi hyd yn oed fwy o arwyddocâd i'r geiriau yw'r ffaith mai cenedlaetholwr yw'r Gweinidog.
Ac yntau ar hyn o bryd yn ystyried cais am arian gan yr Eisteddfod Genedlaethol mae'n debyg i selogion yr ŵyl honno gymryd eu gwynt atynt hefyd o'i glywed yn dweud ar yr un rhaglen mai dim ond "hyn a hyn" o arian sydd ar gael i helpu pethau fel yr Eisteddfod.
"Dwi yn meddwl fod angen i'r Eisteddfod edrych arni hi ei hun a dweud o ddifrif ai dyma'r math o Ŵyl yda ni'n gallu ei fforddio a dyma'r math o Ŵyl yda ni eisiau ac a ydy'r arian yda ni'n wario yn cael ei wario ar weithgaredd diwylliannol ynteu ydi o i gyd yn mynd ar y ffabric a'r adeiladwaith o'i gwmpas achos mae'r Eisteddfod yn costio erbyn hyn yn agos at £3m ac yn sicr mae'n rhaid i'r Eisteddfod edrych yn ofalus arni ei hun ai dyna'r math o beth sy'n gymeradwy i'r dyfodol."
Pe byddwn i'n Sais fe fyddwn i'n awgrymu fod hwn ynÌýÌý²õ²úê²õ i'w wylio gyda chryn ddiddordeb am arwyddion go iawn fod tynhau ar y gweill ar bwrs y wlad.