³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pledu'r blogwyr

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:37, Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2009

Un sy'n debyg o gael cryn fwynhad o'r ffilm newydd State of Play fydd yn y pictiwrs ddydd Gwener ydi Menna Elfyn.

Does gan brif gymeriad y ffilm, a chwaraeir gan Russell Crowe, fawr o amser ar gyfer blogwyr. Yr un modd, Menna, yn ôl ei cholofn wythnosol yn y Western Mail Ebrill 15. "Blogio. Gas gen i'r blogiaduraeth sy'n prysur ddisodli newyddiaduraeth," medda hi.

"Dylid ei alw'n 'blagaduraeth' am mai plagio pobl yn aml a wna," meddai wedyn gan godi'r ofn "y bydd ein byd amrantaidd yn dileu'r angen am newyddiadurwyr praff a gofalus." Hawdd ddeall sut y gallai peth mor anghymen â blogio fod yn dân ar groen Menna Elfyn y bardd. Ond anos deall sut mae'n destun cymaint o boen i Menna Elfyn y golofnwraig bapur newydd wythnosol.

Yn enwedig o gofio mai brawd bach y golofn bapur newydd ydi'r blog mewn gwirionedd - a hithau ei hun awdur un o'r rheini ac wedi gorfod ildio i'w llenwi ambell i wythnos, fel sawl un ohonom,  gydag ambell i eitem "ffwrdd-a-hi er mwyn llanw'r gofod" chwedl hithau!

Adolygiad State of Play

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.