³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ffurfafen olau, wal frics a ffrind newydd - dydd Llun

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 05:57, Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2009

Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.

Goleuwyd ein ffurfafen gyda dawn lachar arall yn Neuadd Dewi Sant nos Lun - Ekaterina Shcherbachenko, soprano 32 oed o Rwsia.
Hi gafodd wobr y noson yng nghystadleuath ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd Caerdydd 2009 a hynny o dipyn, goelia i.

A thybiaf ei bod yn bur hyderus o lwyddiant yn y brif gystadleuaeth. Ni chynigiodd yng nghystadleuaeth y Datganiad a chyfyngodd ei hun i ddwy gân yn unig: Temerari ... Come scoglio o Cosi fan tutte Mozart a Ruskai pogibnu (Golygfa Llythyr Tatayana) o'r opera Eugene Onegin gan Tchaikovsky.

Ekaterina Shcherbachenko

Ond nid perfformiadau byr mohonynt a chawsom yr ugain munud llawn a gwerth ein harian gyda dau gampwaith o berfformiad gan gantores sy'n aeddfed i'r llwyfan mawr.
Anodd dychmygu nos Sul y rownd derfynol heb hon.

Yr oeddem eisoes wedi clywed tri o'r cystadleuwyr eraill yn y Theatr Newydd y nos Sadwrn agoriadol ac wedi cychwyn braidd yn ddiargyhoeddiad gwelsom Dawid Kimberg yn gwella wrth fynd yn ei flaen.

Daeth i'r llwyfan ar gyfer ei aria gyntaf, aria "barablu" Figaro gan Rossini wedi i'r gerddorfa gychwyn a hynny'n ysgogi'r arweinydd, Lawrence Foster, i gellwair ei fod yn gobeithio na fu i'r gynulleidfa boeni mai ef ei hun fyddai'n canu!

Mae gan Ji-Min Park, y tenor o Gorea, lais dymunol iawn a'r ddawn i liwio'n hardd a chyfathrebu'n hyfryd ond nid oedd ef a'r gerddorfa bob amser yn cyd-symud.

Mae gan y fezzo o Saesnes Anna Stephany, lais hyfryd ond y mae'n brin o deimlad a mynegiant. Cafwyd perfformiadau da ganddi o Ravel a Bellini ac yr oedd ei pherfformiad o'r Dopo notto o'r opera Ariodante gan Handel yn dechnegol ardderchog iawn.

Yn ddiddorol iawn, yr oedd perfformiad pob un o'r tri dipyn gwell yn y gystadleuaeth hon nag yn y Theatr Newydd nos Sadwrn. A ddylid ystyried cynnal rowndiau'r gystadleuaeth hon yn rhywle arall?
Efallai y caf drafod hyn yn hwyrach yn yr wythnos.

Y canwr arall oedd Octavio Moreno, bariton 27 oed o Fecsico. Nid yw yntau'n cystadlu am wobr y Datganiad. Yr oedd braidd yn nerfus i ddechrau. ond clywsom ef ar ei orau yn canu'r aria o Don Sebastiano gan Donizetti.

Darlith cyn Datganiad!
Mae ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd Caerdydd yn fwy hyd yn oed na chystadleuaeth unawdwyr lleisiol orau'r byd. Mae'n ŵ²â±ô.
Cyrhaeddais y Theatr Newydd yn gynnar yn y prynhawn a mynd fyny i'r bar uchaf.

Yno'r oedd y cyfansoddwr a'r ysgolhaig Geraint Lewis yn rhoi darlith anffurfiol am y gerddoriaeth y byddem yn ei chlywed gan gantorion cystadleuaeth y Datganiad ymhen hanner awr.

Gan fod Dora Rodrigues y soprano o Bortiwgal yn canu pedair cân gan Chausson a'r bariton o Andorra, Marc Canturri, yn canu tair cân gan Ravel ac un gan Offenbach - oedd hefyd â chysylltiadau Ffrengig - a'r fezzo o Awstralia Katharine Tier yn canu un gân gan Fauré bachodd ar y cyfle i roi darlith ddifyr i ni am gyfansoddwyr Ffrainc.

Gan mor fyr fu oes Chausson (1855 - 1899) ni chaiff y gydnabyddiaeth a haedda, meddai Geraint Lewis; er mor delynegol a thlws ei alawon a'r modd y llwyddodd i ganfod ymateb priodol i'r cerddi y dewisodd gyfansoddi alawon iddynt.

Dysgais iddo farw tra'n mynd am dro gyda'i blant ar gefn beic tra ar wyliau yn Ne Ffrainc. Aeth ar ei ben i wal frics!

Yn yr awditoriwm eisteddodd dynes ifanc, hardd a thrwsiadus iawn wrth fy ymyl.
"Ydych chi'n un o'r cystadleuwyr?" holais. "Na, rwy i wedi dod i gefnogi fy ffrind sy'n cystadlu," atebodd.

"Pwy? Katharine Tier?" holais o ganfod tinc Awstraliaidd i'w llais. "Ie, cyrhaeddais o Hamburg am dri bore yma."

 Katharine Tier

"Mowredd! Rydych chithe'n gantores hefyd?" meddwn.
"Na, rwy'n arweinydd gyda Cherddorfa Opera Hamburg. Roedd gen i rai dyddiau'n rhydd, mae Katharine yn canu yma a mae'n gyfle ardderchog i fwrw golwg dros rai o'r cantorion fydda i'n eu harwain yn y blynyddoedd i ddod. Caerdydd yw'r lle i fod yr wythnos hon."

Cefais gyfle i ddangos fy ngwybodaeth o fywyd a gwaith Chausson yn ystod perfformiad hyfryd Dora Rodriguez. Canmolodd hithau ddewis Marc Canturri o ganeuon oedd yn arddangos ei gryfderau cerddorol ond pryderai am ddewis ei ffrind o Banquo's Buried (geiriau allan o Macbeth) o waith Awstraliad arall, Alison Bauld.

"Cân front. Wn i ddim be ddywed y beirniaid," meddai hi, ond roedd hi'n fwy na phlês gyda pherfformiad Katharine Tier.

"Yr orau! Wrth gwrs, fedrwch chi byth fy nghyhuddo o fod yn ddi-duedd," chwarddodd.
Wel, fe gawsom berfformiad i'w gofio o Banquo's Buried gan y fezzo ddramatig o Awstralia a chafodd y cyfeilydd, Phillip Thomas, glamp o gusan am ei gyfraniad gorchestol.

Dyma ymddangosiad cyntaf Natalya Romaniw, y soprano o Dreforys sy'n cynrychioli Cymru. Mae hi'n bersonoliaeth hyderus, gynnes a chanddi lais grymus sy'n dangos aeddfedrwydd mawr am ei hoed.

Cafodd ymateb brwd am ei pherfformiad o Rakhmaninov a'r gân Oliver Cromwell gan Britten. Rwy'n sicr y cawn berfformiad da iawn ganddi hithau yn Neuadd Dewi Sant nos Fercher.

Diweddodd y prynhawn gyda'r baswr Jan Martinik o'r Weriniaeth Siec, cawr Bryn Terfelaidd yr olwg gyda llais mwyn, cyfoethog, yn rhoi mwynhad mawr i ni gyda thair cân gan Schubert, dwy gan Tchaikovsky a diweddglo hwyliog Cân y Chwannen Mussorgsky.

O, ie, fy ffrind newydd o Awstralia a Hamburg?
Cofiwch yr enw - Jennifer Condon.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.