Dic Jones a'r Bala
Heb amheuaeth bydd yn siom arbennig nad yw'r Archdderwydd Dic Jones yn gallu bod yn Eisteddfod Y Bala eleni.
Yn siom i eisteddfodwyr ac yn siom iddo yntau'n bersonol hefyd oherwydd wrth gael ei urddo'n Archdderwydd datgelodd fod i'r Bala, o bobman, le cynnes iawn yn ei galon.
Yn wir cyhoeddodd o'r Maen Llog y pnawn hwnnw i gymeradwyaeth y gynulleidfa;
"Pe bai'n rhaid imi i mi symud bro o'r fan lle'r ydw i'n byw fe fyddwn i naill ai'n mynd i fyw i Grymych neu i ardal Y Bala."
Rheswm da pam bod Y Bala yn golygu cymaint iddo.
Yn Eisteddfod yr Urdd 1954 yn Y Bala yr enillodd ei gadair eisteddfodol gyntaf erioed.
"Ac yn yr Eisteddfod honno, noson lleuad lawn, ac edrychwch chi'n ôl yn eich almanaciau ichi gael gweld fy mod i'n dweud y gwir, fan hynny y dechreuodd Sian [ei wraig] a minnau 'ganlyn' ys dywedwch chi yn yr ardal hon ac fe fyddwn ni'n dal i wneud ambell i bererindod yn ôl i bentref Glanrafon," meddai.
Arhosai'r ddau ohonynt gyda theuluoedd o fewn ychydig ddrysau i'w gilydd yn y pentref hwnnw.
"Yma yn Y Bala hefyd y cefais i'n nerbyn i'r Orsedd , yma yn y Y Bala hefyd y cwrddais i a chymeriadau fel Ifan y Fet a Llwyd o'r Bryn ac yr es i i lefydd fel Tai'r Felin, Trawsfynydd a Hafod yr Esgob. Felly, rwy'n hoff iawn o'r Bala," meddai.
Cyhoeddi Eisteddfod Y Bala 2009