Moli Meirion ond Môn yn y Meddwl
Yn ei feddwl mae rhywun yn cysylltu Meirionnydd ag eisteddfodau da.
Ond ers dechrau'r ganrif ddiwethaf dim ond pedair gwaith yr ymwelodd y Brifwyl â'r 'cyffiniau' - Corwen 1919, Dolgellau 1949, Y Bala 1967 a'r Bala eto yn 1997.
Mae Eisteddfod Dolgellau 1949 o ddiddddordeb arbennig i mi gan mai yno yr enillodd John Eilian ei goron genedlaethol.
Daeth y ddau ohonom yn eithaf ffrindiau pan oeddem yn cydweithio ar bapurau'r Herald yng Nghaernarfon ddiwedd y Saithdegau - ef yn olygydd y grwp a minnau'n gynorthwydd iddo.
Enillodd ei goron am bryddest ar y teitl Meirionnydd gyda Gwenallt, William Morris a Iorwerth Peate yn beirniadu.
Yr oedd wedi ennill y gadair ym Mae Colwyn ddwy flynedd ynghynt, 1947, am ei awdl Maelgwn Gwynedd a gyfansoddodd ar 'fesur Madog' anodd ei arwr T Gwynne Jones.
Un o Fôn oedd John Eilian ac yn ymhyfrydu yn hynny ac rwy'n ei gofio'n dweud iddo gael ei holi wedi buddugoliaeth Dolgellau sut y gwyddai un o Fôn gymaint am leoedd ym Meirionnydd a gallu canu mor dwymgalon amdanyn nhw .
Eglurodd uro iddo fod yn astudio map ordnans yn drwyadl i gael yr enwau i'w defnyddio yn y bryddest.
Ond ychwanegodd mai ei deimladau tuag at Fôn sydd yn y gerdd mewn gwirionedd - pryddest sy'n dangos perthynas dyn â'i fro ac y dywedodd William Morris amdani "na threiddiodd yr un o'r beirdd cyn ddyfned i fywyd Meirionnydd" ag y gwnaeth ei hawdur!
Yn Dori rhonc, yn frenhinwr i'r carn yr oedd John Eilian yn ddyn a ystyriai berthynas â bro yn rhywbeth tu hwnt o bwysig.
Dyn o natur bendefigaidd, nad oedd yn gymeradwy yng ngolwg llawer oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol, ond dyn a oedd yn ddyn bro ymhell cyn bo sôn am bapurau ac ysgolion bro!