Dryswch y Gadair WAg
O fewn munudau i Seremoni'r Gadair WAg yr oedd dryswch ynglÅ·n a beth sy'n debyg o ddigwydd i un o'r cadeiriau harddaf ers blynyddoedd lawer yn awr ei bod heb ei hennill.
Yn syth wedi'r seremoni dywedodd Heddlu'r Gogledd, a'i rhoddodd i'r Eisteddfod:
"Fe fyddwn ni'n trafod gyda'r gwneuthurwr o fewn y dyddiau nesaf i benderfynu ar y cam nesaf."
Gan nodi eu bod yn awyddus ei gweld yn cael ei harddangos mewn man cyhoeddus.
Ond yn ôl llefarydd ar ran yr Eisteddfod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith lleol yw beth a ddigwydd iddi.
Mewn gwlad sy'n un mor gymodlon rwy'n hyderus y bydd pawb yn gweld lygaid yn llygaid mewn amrantiad!
Nodyn hanesyddol:
Pan ataliwyd y gadair ym Mhenybont-ar-Ogwr fe'i trosglwyddwyd i'r Cynulliad yn unol â dymuniad John Elfed Jones a'i rhoddodd i'r Eisteddfod. Ef hefyd oedd cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol.
Yng Nghaernarfon - aeth y pwyllgor gwaith yn groes i ddymuniad rhoddwr y gadair a oedd eisiau ei chyflwyno i Lys newydd y Goron yn y dref. Fe'i trosglwyddwyd i'w defnyddio yn ysgolion uwchradd bro'r Eisteddfod.
Maen nhw'n dweud i mi ei bod ar hyn o bryd yn Ysgol Dyffryn Nantlle.