Mae isio gRas
Nes i rywun ofyn imi "Sut mae'r ras yn mynd?" y dydd o'r blaen wyddwn i ddim fy mod i mewn ras o gwbl.
Ond mae'n ymddangos bod yna ymgiprys rhwng Vaughan Roderick, un arall o flogwyr y ³ÉÈËÂÛ̳, a Hywel gwynfryn a minnau pwy sy fwyaf cegog.
Hynny yw pa un ohonom fydd yn 'postio ' - a defnyddio'r derminoleg yr ydw i mor gyfarwydd â hi - y mwyaf o sylwadau ar ei flog gyda Vaughan yn ofni bod y ddau ohonom yn bygwth ei goron!
Y cwestiwn cyntaf a ddaeth i'm meddwl i, yn naturiol, oedd; A yw hi'n bosib bod mewn ras nad ydych chi'n gwybod ei bod yn cael ei rhedeg? - ac mae metaffisegwyr wedi rhoi eu pennau i oeri mewn bwcedeidiau o ddŵr oer wrth fynd i'r afael a chwestiynau llai dyrys na hwnna.
Pethau fel, Pam yda ni yma? Yn blogio o gwbwl.
Beth bynnag, a ydio'n gwestiwn sy'n mynd a'ch bryd chi ai peidio, piciwch draw am dipyn o synnwyr cyffredin i flog Vaughan sydd, beth bynnag am unrhyw râs, ymhlith y difyrraf o flogiau, ac newydd ei ddewis yn nawfed blog gorau 'Total Politics' gan guro rhenciau hirion o flogiau Saesneg..
Ac un peth y gallwch fod yn sicr ohono; pwy bynnag fydd yn ennill y ras-na-wyddwn-amdani fe ddywed y sawl sy'n colli mai sylwedd nid swmp sy'n cyfrif yn y pen draw.
O leiaf, dyna fydda i'n i ddweud os collai.