Sillafu teitlau
Gallech daeru ei bod yn ffasiwn yn Hollywood y dyddiau hyn i roi teitlau wedi eu camsillafu i ffilmiau.
Yn dal yn y sinemâu mae The Time Traveler's Wife wedi gamsillafu i'n llygaid ni yr ochr hon i'r Iwerydd lle byddwn yn rhoi dwy 'l' yn traveller.
Un, fodd bynnag, ydi'r arferiad Americanaidd, ond yn aml iawn pan fo gwahaniaethau sillafu fel hyn yn bodoli mae'r ffordd gymwys yn cael ei mabwysiadau y naill ochr a'r llall. Nid y tro hwn.
Camsillafiad o fwriad ydi un ffilm ddiweddaraf Quentin Tarantino, Inglourious Basterds - rhag i bobl ei chymysgu â ffilm Eidalaidd a ymddangosodd yn Saesneg ym 1978 fel The Inglorious Bastards a honno'n un o hoff ffilmiau Tarantino - fel yr eglura Lowri Haf Cooke yn ei hadolygiad ar y wefan hon.