Stiward Selog
Ym mhabell Undeb Cymru a'r byd, cyfarfod Gwynfor Evans o Swydd Efrog.
Yn dod o Gaerfyrddin mae e wedi bod yn stiwardio'n rheolaidd yn yr Eisteddfdod Genedlaethol ers Eisteddfod Llanelli 1962 lle'r oedd yn canu gyda Chôr Caerfyrddin.
Erbyn hyn mae'n byw yn Sutton in Craven Swydd Efrog ond yn dal i fynychu'r Eisteddfod yn flynyddol gyda'i garafán.
Pan yn byw yng Nghymru byddai'n cystadlu mewn eisteddfodau bach ond symudodd i Ogledd Lloegr wrth i'r diwydiant glo grebachu ac mae'n awr yn aelod o Gymdeithas Gymraeg Bradford.