Sgwrsio lliwgar
Dim ond unwaith erioed y cyfarfyddais i'r arlunydd Kyffin Williams.
Yr oedd hynny ddiwedd yr Wythdegau pan ymwelais i a thynnwr lluniau Y Cymro a'i gartref ym Mhwllfanogl, Llanfairpwllgwyngyll, i gael hanes portread yr oedd yn ei wneud ar y pryd o'r dramodydd a'r beirniad llenyddol John Gwilym Jones.
Yr hanesyn oedd fod 'John Gwil' yn 'steddwr' sâl iawn ac yn ystod un sesiwn i Kyffin daflu ei frwsus a'i baent mewn anobaith ar draws y stafell gan ddweud yn Saesneg, "Rwyt ti'n amhosib dy beintio - dwi'n rhoi fyny."
John Gwilym Jones ei hun ddywedodd y stori ac yr oedd yn rhaid mynd draw wedyn i weld y portread a chlywed beth fyddai gan yr arlunydd i'w ddweud.
Cawsom groeso a phaned a chadarnhad a gweld y portread anorffenedig yng nghornel y stiwdio ond doedd o ddim yn or awyddus gweld yr hanes yn y papur os cofiaf yn iawn.
Wn i ddim beth ddaeth o'r llun hwnnw . A gafodd o'i orffen? Lle mae o heddiw? Byddai'n ddifyr gwybod.
Yr hyn ddaeth â'r digwyddiad i gof oedd clywed Derec Llwyd Morgan a Rolf Harris yn trafod Kyffin Williams ar raglen radio Matthew Parris, 'Great Lives' , Radio 4 y dydd o'r blaen.
Yr Awstraliad o dras Gymreig dan deimlad dwys wrth sôn am ei gysylltiadau Cymreig ef ac yn ei ddagrau yn canu Nid wy'n gofyn bywyd moethus.
A chawsom olwg ddifyr ar Kyffin Williams y dyn yn ogystal â'r arlunydd a hefyd Kyffin y rhigymwr wrth i Derec Llwyd Morgan, sy'n gadeirydd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams ac a siaradodd yn ei angladd ddyfynnu'r pill hwn o'i eiddo er mawr ddifyrrwch i'r ddau arall:
I met a man, I can't think where
Who said that he was Tony Blair.
But what was really very odd
He also said that he was God.
Cliciwch YMA i wrando ar y rhaglen.