Yn Nhalysarn heddiw - nid ers talwm
Yr oedden nhw'n ddau gefnder ac yn ddau o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru.
A rhwng Hydref 31 a Tachwedd 1 fe fydd yna benwythnos i ddathlu T H Parry-Williams ac R Williams Parry gyda dwy daith yn rhan o'r gweithgareddau.
Bwriad Gwyl T H Parry-Williams ac R Williams Parry a drefnir dan nawdd yr ydi "dathlu cyfraniad arbennig y ddau fardd i ddiwylliant leol (sic) a chenedlaethol gan edrych yn arbennig ar ddylanwad tirwedd Eryri a'r cyffiniau ar eu gwaith."
Ar y Sadwrn bydd Twm Elias a'r prifardd Iwan Llwyd yn arwain taith hanes a natur o gwmpas Rhyd Ddu.
Y Sul bydd y Dr Gwynfor Pierce Jones a David Gwyn yn arwain taith o amgylch Talysarn gyda Karen Owen yn sgwrsio am R Williams Parry. Tybed welan nhw lwynog?
Hefyd yn rhan o'r penwythnos bydd Talwrn nos Sadwrn yng Nghaffi Gwynant, Nant Gwynant, gyda Mei Mac yn meuryna.
Esgus, pe byddai angen un, i estyn am gyfrolau'r ddau fardd ar y silff lyfrau a mwynhau unwaith eto gerddi sy'n rhan o'n gwead.
Beth am rannu rhai o'ch hoff linellau . . .