³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Un nos ola leuad - hir iawn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:58, Dydd Gwener, 27 Tachwedd 2009

Be sydd o'i le efo paent yn sychu?
A gwair yn tyfu, tasa hi'n mynd i hynny.
Pam maen nhw wedi cael enw mor ddrwg?

Fe fum i'n gweld New Moon y dydd o'r blaen - yr ail ffilm mewn cyfres sy'n galw ei hun yn Twilight Saga.

Tweileit fyddai Ifas y Tryc yn ei ddweud am dÅ· bach ers talwm. Mi allai ddeall pam.

Actorion New Moon

Yno - yn y sinema nid y tweileit, ymhlith llancesi nwyfus yn eu harddegau a oedd yno i edmygu'n serchglwyfus actorion tyn, cnotiog a sgleiniog eu cyhyrau - dyma ffilm sy'n rhoi enw drwg i baent yn sychu.

Ac yn ffilm lle mae'r coed mewn coedwig yn llai prennaidd na rhai o'r actorion.

Nid pawb, fyddai'n cytuno wrth gwrs - gan gynnwys ein hadolygydd ni - ac, yn wir i chi, mae hon yn ffilm mae'r ifanc yn rhuthro'n donnau nwydwyllt o berlewyg i'w gwylio yma ac yn y Merica.

Ond ysu'r oedd eraill ohonom am sŵn tyrchu a chnoi popcorn o'r seddau cyfagos. Inni gael rhywbeth i'n cadw'n effro a'n cyffroi am bris ein tocyn.

Un Nos Ola Leuad
doedd hi ddim.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.