Dal ati
Cyfaill dynnodd fy sylw at hwn.
Yng Nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth y Sadwrn o'r blaen cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyngor a fu ar Fehefin 27.
Y chweched eitem, meddai, a'i gogleisiodd ef - Adroddiad y Panel Enwebu. A dyma'r cofnod air am air:
"Adroddodd yr Ysgrifennydd fel a ganlyn:
6.1 Aelodaeth y Bwrdd Rheoli. Roedd tymhorau dau aelod allweddol a benodir gan y Llys yn dod i ben eleni sef Eric Davies (Trysorydd), a Dyfrig Roberts(Cadeirydd y Pwyllgor Technegol). Roedd y Panel Enwebu wedi penderfynu argymell i'r Llys y dylid ailbenodi'r ddau am dymor llawn arall. Hefyd gan fod Gwenllian Carr wedi ei phenodi yn Bennaeth Cyfathrebu roedd sedd wag ar y Bwrdd ar gyfer Cadeirydd y Panel Marchnata. Eglurwyd mai er gwybodaeth yr adroddwyd hyn ond gwahoddid enwau ar gyfer y sedd wag. Yr unig ymddiriedolwr a benodwyd gan y Cyngor y deuai ei dymor i ben eleni oedd Richard Morris Jones ac roedd y Panel Enwebu yn argymell i'r Cyngor, yn wyneb ei brofiad a'i gyfraniad, y dylid ei ailbenodi am dymor llawn arall.
PENDERFYNWYD ailbenodi Richard Morris Jones am dymor llawn o bedair blynedd.
6.2 Aelodaeth y Cyngor. Roedd tymor dau aelod cyfetholedig o'r Cyngor yn dod i ben eleni sef Lowri A. Hughes a Roger Williams. Roedd y Panel Enwebu yn argymell y dylid ailbenodi'r ddau am dymor llawn arall.
PENDERFYNWYD ail gyfethol Lowri A. Hughes a Roger Williams am dymor llawn arall o bedair blynedd.
6.3 Adroddwyd na fyddai etholiad eleni ar gyfer dewis cynrychiolwyr y Llys i fod yn aelodau o'r Cyngor gan mai chwe enwebiad yn unig a gafwyd, sef y chwe aelod o'r Cyngor roedd eu tymor yn dod i ben.
"Dwi am ddweud dim ," meddai'r cyfaill, "nes byddai wedi stopio chwerthin. Rywdro cyn y Steddfod nesaf."