Dwyfol ffôn
Ar drothwy'r Nadolig gofynnodd golygydd cylchgrawn i nifer o bobl - ddoeth mae'n debyg - beth fyddent hwy yn ei roi yn anrheg i'r Baban Iesu pe byddai'n cael ei eni heddiw.
Wedi'r cyfan ni fyddai i Aur a Thus a Myrr yr arwyddocâd heddiw ag oedd iddyn nhw ddwy fil a naw o flynyddoedd yn ôl.
Un awgrym - gan y Tra Barcherdig Vincent Nichols, Archesgob San Steffan - oedd ffôn poced talu tra'n galw fel y gallai'r Arglwydd alw arno ef i'w wasanaethu unrhyw adeg lle bynnag y byddai.
"Yr ydw i'n barod am ei alwad ac yn effro i wneud yr hyn mae Ef eisiau imi ei wneud," meddai.
Ac mae'n ychwanegu y byddai ffôn o'r fath wedi bod yn gysur i Mair a Joseph hefyd gan y gallai'r Iesu fod wedi ei ddefnyddio i ffonio i ddweud wrthyn nhw lle'r oedd o pan aeth o ar goll yn Jerwsalem y tro hwnnw a hwythau mewn cymaint pryder yn chwilio amdano cyn dod o hyd iddo o'r diwedd mewn dwys drafodaeth â gwybodusion y Deml.
Synnwn innau ddim chwaith y byddai ffôn wedi bod yn gwmni i'r Iesu yn ystod y deugain niwrnod yna yn y diffeithwch yn cael ei demtio gan Satan.
Ond eto dydw i ddim mor siŵr ychwaith o fendithion rhoi'r teclyn i neb.
Er bod i ffôn symudol ei rinweddau byddai peryg hefyd i ddyfais o'r fath halogi am byth yr olygfa ddwys a dyrchafol yna ar dair croes ar Galfaria - o gofio am y "Rydw i ar y trên" yna sy'n gymaint o bla cyfoes.