³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwilio am eira

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:52, Dydd Gwener, 8 Ionawr 2010

Daeth ymholiad i law yn gofyn tybed faint o leoedd sydd yna yng Nghymru gyda'r gair 'eira' yn rhan o'u henw.

Meddai Bethan - sy'n siwr o fod yr unig un sy'n chwilio am eira y dyddiau hyn:

"Oes yna unrhyw le yng Nghymru ar wahân i Gwm Nant yr Eira ym Maldwyn y mae 'eira' yn elfen yn ei enw?

"Er bod Cymru i gyd dan eira ar hyn o bryd alla i na'r rhai yr ydw i wedi bod yn eu holi ddim meddwl am yr un."

Yn wir mae Bethan yn cael anhawster dod o hyd i enw tŷ neu fferm gydag 'eira' yn rhan o'r enw heb sôn am bentref neu dref.

Yr ydw innau'n crafu mhen hefyd.
Allwch chi helpu - cyn iddi ddadmer?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:51 ar 8 Ionawr 2010, Bethan Mair ysgrifennodd:

    Mae'r rhaeadr Sgwd yr Eira yn ne Powys yn cynnwys yr elfen hon a hefyd Maeneira ar lan Afon Dulyn uwchlaw Tal-y-bont, Dyffryn Conwy. O ran tai a strydoedd, mae yna westy o'r enw Gors yr Eira ger Bangor, fferm o'r enw Bryn yr Eira yn ardal Corwen a stryd o'r enw Bryn Eira yn ardal Castell-nedd.

    Debyg bod yna ragor, ond dyna'r cyfan y deuthum innau o hyd iddyn nhw.

    Bethan Mair

  • 2. Am 13:30 ar 8 Ionawr 2010, Glyn Evans Author Profile Page ysgrifennodd:

    Diolch yn fawr Bethan. Bydd y Bethan arall - yr ymholydd - wrth ei bodd â chymaint o gnwd. Tybed ddaw yna ragor. Tybed oes yna ragor.

  • 3. Am 09:02 ar 9 Ionawr 2010, Glyn Evans Author Profile Page ysgrifennodd:

    Daeth neges arall - ar e-bost - yn tynnu sylw at Ffordd Eira yng Ngorseinon a lle i aros yn Llanfairpwllgwyngyll, Ynys Mon o'r enw Bryn Eira.
    Diolch
    Glyn

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.