Galwad amserol
Efallai ei bod hi braidd yn hwyr i sôn am y nadolig ond dim ond newydd dderbyn copi o bapur bro Bangor a'r Felinheli, y Goriad, ydw i - gyda cholofn Mari Emlyn ynddo fo.
Mari, wrth gwrs yn ferch Owen Edwards pennaeth cyntaf S4C, a Shân Emlyn, ac yn y Goriad fis Ionawr yn hel atgofion am y Nadolig ar yr aelwyd gartref yng Nghaerdydd pan oedd hi a'i chwaer Elin yn blant.
Mae'n sôn am westai arbennig fyddai'n ymweld â nhw:
"Bob diwrnod 'Dolig, fe fyddai Mam, er mwyn bod yn gymdogol, yn gwahodd ein cymdoges unig draw am ginio.
"Er nad oedd Dr Jagger yn tywyllu'n cartref o un pen y flwyddyn i'r llall, fe dderbyniai wahoddiad caredig mam bob Nadolig, a hynny, nid oherwydd ei hoffter o Elin a finnau, na choginio blasus Mam, na jôcs sâl Dad, ond am fod gennon ni deledu lliw.
"Roedd Dr Jagger yn Royalist brwd, ac fe fyddai'n fodlon ein dioddef pe bai dim ond er mwyn cael gweld a chlywed araith y frenhines.
"Roedd hyn yn dân ar groen pawb acw, ond fe wnaem Nadolig Dr Jagger wrth adael iddi weld Mrs Windsor mewn lliw.
"Gwyddai fy ewythr Prys yn Aberystwyth fod Dr Jagger gyda ni, a phob 'Dolig, yn ddeddfol, fe ffoniai am dri o'r gloch ar ei ben i ddymuno Nadolig Llawen i ni.
"Ymateb Dr Jagger bob 'Dolig yn ddi¬ffael wrth glywed caniad y ffôn yn torri ar draws God Save The Queen oedd dweud: 'What a peculiar time to phone!' ac Elin a minnau yn trio ein gorau i beidio â chwerthin!" meddai Mari.
Ac mae Mari yn ychwanegu, er mor hoff yw hi o gynnal hen draddodiadau, "Mae un peth yn sicr, dydw i ddim am orfodi fy mhlant i wylio araith y Frenhines."