Bei Goli
Ac, wele, gwawriodd oes newydd yn hanes sgrifennu a llenydda yn y Gymraeg. A'r bore a fu ar ddyddiau cyntaf Oes y Golygyddion.
Adeg ei benodi yn bennaeth newydd Cyngor Llyfrau Cymru dywedodd Elwyn Jones mai un dymuniad ganddo oedd gweld buddsoddi mewn golygyddion creadigol yn y gweisg.
"Gwaith golygydd creadigol ydi adnabod a meithrin talent ifanc ar un llaw ac wedyn cydweithio efo awduron profiadol ar y llaw arall," medda fo gan ychwanegu mai canlyniad hynny fyddai "cryfhau y cynnyrch".
Daeth yn amlwg o'r hysbysebion niferus yn y wasg y dyddiau hyn bod ei freuddwyd yn prysur gael ei gwireddu gan fod sawl un o'n cyhoeddwyr yn awr yn baglu dros ei gilydd i gael gafael ar y bodau bendithiol hyn.
Ymhlith y rhai sy'n hysbysebu mae:
- Y Lolfa - sydd a golygydd creadigol yn barod ond yn awr yn chwilio am rywun i lenwi dwy swydd arall ran amser.
- Gwasg Gomer - sy'n chwilio am olygydd llawn amser llyfrau plant, golygydd llawn amser llyfrau oedolion a phobl lawrydd i weithio rhwng 60 a 140 o ddyddiau'r flwyddyn.
- Cyhoeddiadau'r Gair - yn chwilio am "olygyddion creadigol llawrydd i weithio ar nifer o deitlau Cymraeg Cristnogol".
Yn tyfu
Dim rhyfedd i rywun awgrymu y bydd yna cyn bo hir fwy o bobl yn cywiro, ail sgrifennu ac ailwampio nofelau a llyfrau Cymraeg nag sy'n eu sgwennu yn y lle cyntaf!Mae hwn yn amlwg yn ddiwydiant sy'n tyfu, a diau y bydd gan y bobl hyn eu cyfraniad i'w wneud pan fyddant yn y tresi.
Er enghraifft ailadroddwyd hyd at syrffed bron yn ddiweddar sut y bu i Alun Jones, golygydd creadigol gyda'r Lolfa hyd yn oed cyn i'r swydd ddod yn un mor ffasiynol ag yw yn awr, droi nofel Caryl Lewis, Martha Jac a Sianco yn un l lwyddiannus trwy awgrymu newid sylweddol i ddiwedd y stori.
Ni all rhywun ond dychmygu faint o fri fyddai wedi dod i ran Daniel Owen, dyweder, pe byddai giang o'r rhain ar gael i deilwra'i nofelau cyn iddo eu gollwng yn rhydd ymhlith darllenwyr Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
A meddyliwch pe byddai un ohonyn nhw wedi medru cael ei ddwylo ar Cysgod y Cryman a newid diwedd honno cyn i Islwyn Ffowc Elis ei gollwng o'i ddwylo.
Waw.
Peryg y byddai'n rhaid ei hailenwi yn Cysgod y Bladur.
Yr holl sôn yma am yr angen i ailwampio ac ail sgrifennu gweithiau llenyddol a barodd i'r Athro Gwyn Thomas fathu mewn rhifyn diweddar o Barddas yr ymadrodd gogleisiol, "awduron anllythrennog" gan ddweud bod y busnes golygu 'ma yn codi cwestiwn cwbl sylfaenol "ynglŷn â safon ysgrifennu Cymraeg yn gyffredinol".
"Ydi o mor wael nes bod angen gwaith sylweddol ar lawer o deipysgrifau gan ryw olygydd sy'n gallu sgrifennu Cymraeg?" holodd.
A hynny'n peri i Madog, brawd Rhys Mwyn, yn Y Cymro holi ymhle y cafodd yr awduron diffygiol hyn iaith mor anghaboledig ac addysg mor ddiffygiol yn y lle cyntaf.
Y pen draw
Mae'n werth holi hefyd beth fydd pen draw trefn fel hon - pob llyfr a nofel wedi eu hysgrifennu rhwng rhyw ganllawiau gosodedig a fydd yn plesio'r Cyngor Llyfrau a'i fintai olygyddol fawr?Un peth sy'n sicr, mae rhywrai yn mynd i bocedu dipyn o arian trwy ddilynl y ffasiwn hon.
A beth am awgrym Gwyn Thomas y dylid nodi ar gloriau'r llyfrau hynny a olygwyd yn drwm i hynny ddigwydd gyda rhan o ysbail yr awdur yn mynd i'r golygydd a achubodd ei fywyd llenyddol?
Safoni llyfrau
A welwn ni hefyd safoni llyfrau o hyn allan yn ôl y gwaith golygu a fu arnyn nhw? Llyfr pum seren heb bron a'i gyffwrdd ond rai un seren wedi eu hail sgrifennu'n llwyr mewn Cymraeg cymeradwy.Ond na phoenwn.
Daethom drwy oes y Gogynfeirdd, drwy gyfnod Beirdd yr Uchelwyr a'r Awgwstiaid a'r Rhamantwyr - siawns na ddown ni drwy Oes y Golygyddion hefyd heb wlychu'n traed yn ormodol.
Byddwch olygus.