³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y fath ddweud

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:43, Dydd Gwener, 26 Mawrth 2010

Ar fore Gwener - ail flasu'r wythnos trwy gofio rhai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl yn y wasg ac ar y cyfryngau. A gwahoddiad i chwithau anfon y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi atom ni. Anfonwch nawr.

  • Rydw i ond yn bwyta'n well a bwyta llai o fwyd nag oeddwn i'n wneud - Mae Cahrlotte Church wedi colli pedair stôn ac yn awr yr un pwysau ag oedd cyn cael babi.
  • Er gwaethaf y daith hir, mae'r gweilch wedi cyrraedd ar bron yr un dyddiadâ'r blynyddoedd blaenorol - Ceri Thomas, swyddiog prosiet, yn dathlu dychweliad Gweilch Glaslyn i gyffiniau Porthmadog i nythu am 14.30 bnawn Llun.
  • Doedd o mo'n diwrnod gorau . . . dyw hi ddim yn hawdd dechrau chwarae pan ydych chi dair gôl i lawr - Paulo Sousa wedi i Abertawe golli 5-1 i Blackpool nos Fawrth.
  • Dydi gyrru a ffonau symudol ddim yn gydnaws - Richard Lewis, prif gwnstabl cynorthwyol De Cymru.
  • Dydi o ddim yn annhebyg i gyffwrdd plwg byw. Dyna'r math o sioc yw hi - Gethin Russell-Jones o'r RSPCA am y coleri trydan a waharddwyd gan y Cynulliad i ddysgu cŵn .
  • Rwy'n siŵr ei fod yn meddwl mai ci yw e - Sadie Jones o Aberpennar sy'n mynd a'i ffured, Paul, am dro ar dennyn.
  • Fe edrychodd y plant arno ar y we ac maen nhw'n awr yn ei alw yn Killi-me-Daddy - Emyr Lewis, un o'r cyn chwaraewyr rygbi sy'n mynd i gerdded i gopa mynydd Killimanjaro.
  • Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried lles anifeiliaid yn ddifrifol iawn ac rwy'n falch ein bod fel llywodraeth yn cymryd camau cadarnhaol i hyrwyddo lles anifeiliaid trwy wahardd y defnydd o'r fath ddyfeisiadau hyfforddi electronaidd yng Nghymru - Elin Jones AC. Adroddiad yn y 'Western Mail' o ddadl y Cynulliad ar wahardd coleri trydan i hyfforddi cŵn a chathod.
  • Mae Cymru yn wlad mor hardd ac mae hynny'n gwbl groes i'r syniad o fod daear yn cael eu llusgo o'u daearau a'u lladd wrth y miloedd - Brian May o 'Queen'.
  • Mae'n amser dysgu gwers na fyddant yn ei anghofio i Aelodau Seneddol a thaflu'r rhai presennol i gyd allan; gan gychwyn yma ym Mhorth Talbot, y dref a ddyfeisiodd rwd - Capten Beany sydd wedi troi ei fflat yn 'Museum of Baked Beans' yn ymbaratoi am yr etholiad cyffredinol.
  • Roeddwn am ddathlu treftadaeth ddiwylliannol a balchder gweithwyr De Cymru, felly mae Pwyll yn sefyll yn falch ac yn gryf. Wrth iddo deithio ar ei garwsél mae wedi mabwysiadu mantell o'i amgylchfyd ac wedi ei addurno a deunyddiau crai, gan gynnwys aur a llechen, sydd yn ei gysylltu unwaith eto â'r tirlun - Stephanie Roberts sydd newydd gwblhau y gyntaf o 50 o ddreigiau chwe troedfedd i'w gosod ar strydoedd Casnewydd.
  • Y blwch sy'n dewis lle i osod y sianelau ac weithiau mae'r blwch yn gwneud y penderfyniad anghywir ar gyfer y gwyliwr penodol - Llefarydd Digital UK wedi i sianelau Cymreig ymddangos uwchben rhai Seisnig yn y rhestr ar flychau Freeview yn ne orllewin Lloegr wedi'r trosglwyddiad digidol yno.
  • Pe byddwn yn derbyn galwad oddi wrth John fe fyddai'n rhaid imi feddwl yn galed am y peth - Ryan Giggs rhyw hanner ar gael i chwarae i Gymru eto pe clywai dyner lais John Toshack.


³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.