³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Athronyddu llenyddol - os oes fath beth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 13:58, Dydd Iau, 15 Ebrill 2010

Nôl yn 1970 cyhoeddodd ysgolhaig o'r Unol Daleithiau yr hyn oedd yn cael ei alw yn Cyfarwyddiadur Awduron Cymraeg Cyfoes - a pheth digon defnyddiol oedd o hefyd, yn enwedig gan fod yna brinder dychrynllyd cyfrolau eraill o'i bath ar y pryd.

Erbyn meddwl mae hynny yr un mor wir heddiw ond i'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru ddod i lenwi bwlch ers hynny er na ddiweddarwyd hwnnw er 1997.

Wedyn, daeth y Gwyddoniadur ddwy flynedd yn ôl ond bod rhaid ichi farw cyn cael mynediad i hwnnw.

Ond waeth befo hynny am rwan lluniwyd Cyfarwyddiadur gwerthfawr 1970 gan John Maxwell Jones, Jr. o Glasboro State College, Glasboro, New Jersey, a'i gyhoeddi yn yr Unol Daleithiau.

Atebodd 104 o awduron holiadur anfonodd y golygydd atyn nhw ar gyfer eu cynnwys yn y gyfrol oedd yn cynnwys hefyd fynegai i weithiau yr awduron a geirfa Gymraeg - Saesneg.

Ond at hyn roeddwn i'n dŵad; yn ei holiadur rhoddodd John Maxwell Jones gyfle i'r awduron draethu'n gryno ar "Athroniaeth Llenyddiaeth".

Yn ddiddorol iawn, o'r 104 a atebodd yr holiadur dim ond pump ymatebodd i'r adran hon sef W Leslie Richards, Islwyn Ffowc Elis, Pennar Davies, Selyf Roberts a Saunders Lewis a ddywedodd, yn nodweddiadol ffwrbwt, "Nid oes y fath beth."

Yr oedd W Leslie Richards yn brinach fyth ei eiriau gan ddweud mai "Pesimyddiaeth Gristnogol" oedd Athroniaeth Llenyddiaeth iddo ef.

Dywedodd Islwyn Ffowc Elis, "Mai'r dyn iach yw'r dyn sy'n perthyn, y dyn afiach, cofledig, yw'r dyn deracine; dyma pam y mae cadw'r Gymru Gymraeg gymdogol, grefyddol, mor bwysig."

Ac meddai Pennar Davies: "Ystyriaf lenyddiaeth yn wedd ar Ymgnawdoliad y Gair."

Digon yn fanna i gnoi cil arno a chadw ambell i senimar i fynd.

Y nofelydd a'r ysgrifwr a dyn banc wrth ei alwedigaeth, Selyf Roberts, draethodd hwyaf gan ddweud mai Athroniaeth Llenyddiaeth iddo fo oedd;

"Ffydd mewn iaith glasurol, gramadeg lân, yn hytrach na llurgunio'r iaith ysgrifenedig i'w gwneud yn haws, a cholli golwg ar wreiddiau, ffurfiau traddodiadol, a chystrawen bur," medda fo.

"Gellir ysgrifennu iaith lafar, gydag ychydig o eithriadau, heb ymadael â gramadeg bur.

"Cytunaf â defnyddio ffurfiau Cymraeg ar eiriau estron os yw'r ffurfiau hynny yn naturiol i glust a lIygad darlIenydd. Onid ê, gwell bathu gair Cymraeg na defnyddio'r ffurf estron mewn italau.

"Dim amynedd hefo'r 'Gymraeg Fyw.' Ni chaniatâ dyfiant naturiol orgraffyddol.

"Credaf os yw cynnwys llyfr yn ddiddorol, fe'i darllenir. Yr angen mawr yng Nghymru yw straeon da mewn iaith bur, neu ysgrifau neu erthyglau diddorol ar gyfer y werin lengar."

Beth, tybed, wnaiff sgrifenwyr - a darllenwyr - a golygyddion creadigol - heddiw o hynna oll?

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.