³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cofio bardd siomedig

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:14, Dydd Iau, 27 Mai 2010

Dathlu daucanmlwyddiant geni pensaer a fu'n goruchwylio gwaith ar y Palas Crisial yn Llundain a bardd a siomwyd y mse rhifyn cyfredol papur bro Y Gadlas.

Cofio dyn go arbennig yn ei fro ei hun. Fe'i ganwyd yn nhafarn yr Harp, Llanfair Talhaiarn a bu'n gweithio i gwmni o benseiri eglwysig yn Llundain ar ôl ei brentisio cyn cael ei benodi i oruchwylio'r gwaith ar y Palas Crisial yn 1851.

Siomedig fu ei hynt fel bardd ac er mawr loesi iddo methodd sawl tro ag ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol gan feio beirniaid anghydffurfiol o fod â rhagfarn tuag ato oherwydd ei fod yn eglwyswr!

John Jones, Talhaiarn

Yr oedd yn ddyn sâl pan ddychwelodd i Gymru yn 1865 a daeth a diweddodd ei fywyd trwy ei saethu ei hun Hydref 17,1869.

Cynllun gwirion Patagonia
Mewn erthygl amdano mae'r Gadlas yn dyfynnu o lythyrau a sgrifennodd gan gynnwys un a anfonodd ddechrau gwanwyn 1865 at ddau fab a merch cyfnither iddo oedd ar fin ymfudo i Batagonia.

Doedd o ddim o blaid y syniad:
"Allan o'r holl gynlluniau gwirion sydd ar goel yn ddiweddar. Y cynllun gwirionaf eto yw'r syniad o sefydlu gwladfa ym Mhatagonia," meddai.

"Mae mwyafrif o'r bobl sydd wedi mynd i'r rhan yma o dde America wedi dod i gyfarfyddiad trychinebus a chreulon.

"Ond does dim rheswm i mi bregethu yn erbyn safbwynt mor rymus, felly rhaid i mi atal fy marn a dymuno'r gobeithion gorau y cewch iechyd a llwyddiant ar eich antur i'r wlad bellennig yma," meddai.

Dyn blin
Yr argraff a gawn yw o ddyn blin, plaen ei dafod. Dyfynnir o lythyr at Gwilym Cowlyd, llyfrwerthwr yn Llanrwst, Ebrill1869:

"Diawl a dy sgubo di, a melltith dy nain i ti. Paham yr wyt yn tynu fy mherfedd yn gyrbibion yn fy mol efo'r cythrauleiddiwch ysgymun yma. Pe buaset yn Brinter i Job, buasai hwnnw, er cymaint ei amynedd yn
dy regi a'th felltithio, ac yn dweud tywyllwch a chysgod marwolaeth a'i haglo.

"Gad i mi gael y rhelyw o'r llyfrau yn uniongyrchol, gael imi orphan yr hen job yma, a gael i tithau gael dy arian a lIonyddwch."

Arian drwy'r post
Un syniad o'i eiddo a hoffais oedd ei gyngor i un wraig yr oedd yn gofalu am waith adeiladu iddi sut i anfon arian iddo drwy'r post:

Yn saesneg meddai: "I have written to your sister, Mrs Glaze, to caution her as how she sends the
money. I have told her to get five Twenty Pounds Bank of England notes, to cut them in half and send the first half to me in a Registered letter and wait my reply before she sends the other halves."

Cymeriad difyr heb os ac un sy'n haeddu ei gofio.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.