³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Colli'r aros

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:42, Dydd Llun, 31 Mai 2010

Mae'n siom iddo ef, meddai un o lywyddion anrhydeddus yr Eisteddfod, Geraint Thomas, nad yw plant sy'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn aros yng nghartrefi ei gilydd erbyn hyn.

"Mae'n golled nad yw'r plant yn cael aros yn y broydd - ddim yn cael aros mewn cartrefi yn y gogledd ac yn y de," meddai mewn cyfarfod ar y maes ddydd Sul.

Gerqaint Thomas
"Roedd hynny yn rhoi cryn bleser i'r plant ac yr oedd y storiâu oedd yn dod nôl wedyn yn ddiddorol dros ben," meddai.

Fel mae'n digwydd, mae hyn yn rhywbeth y mae sawl un yn ei golli ac yn ôl y rhifyn mis Mehefin o'r cylchgrawn newydd, WA-w!, yn arwydd o'r newid cymdeithasol sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd.

Fel y dywed WA-w! bu aros yng nghartrefi ei gilydd yn gychwyn cyfeillgarwch oes i rai.

Yn wir, byddai'r diweddar brifardd Dic Jones yn sôn mai yn aros mewn cartrefi yn ardal Glanrafon adeg Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala y cyfarfu ef â'r ferch ieuanc a ddaeth yn wraig iddo.

"Yn yr Eisteddfod honno, noson lleuad lawn, y dechreuodd Jean a minnau 'ganlyn' ys dywedwch chi yn yr ardal hon ac fe fyddwn ni'n dal i wneud ambell i bererindod yn ôl i bentref Glanrafon," meddai yn ystod seremoni cyhoeddi Eisteddfod Y Bala fis Gorffennaf 2008 pan gafodd ei dderbyn yn Archdderwydd.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.