Doniau lleol cenedlaethol
Doniau'r ardal ei hun fydd yn rhoi cychwyn i Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron ymhen ychydig dros wythnos.
Ar lwyfan y cyngerdd agoriadol bydd enillwyr o Geredigion yn eisteddfodau'r Urdd yn y gorffennol - a'r hyn sy'n rhyfeddol yw faint o ddoniau amrywiol mae'r ardal hon wedi gynhyrchu.
Ar y llwyfan nos Sul, Mai 30, bydd tri sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel - Rhys Taylor, Rakhi Singh a Rhian Lois, er enghraifft.
Ac fe all Côr Ysgol Gerdd Ceredigion dan arweiniad Islwyn Evans ddisgwyl cryn groeso.
Yno hefyd bydd y darlledwr BB Aled Haydn Jones a oedd yn un o lywyddion y dydd yng Nghaerdydd y llynedd.
Ydi mae hi'n dipyn o leinyp chwedl hwythau:
Rhian Lois.
Dewi Pws,
Gwawr Edwards,
Rhys Taylor,
Rakhi Singh,
BB Aled Haydn Jones,
Chris Lewis,
Triawd Tynrhos - y brodyr Robin Lyn, Dewi Sion ac Ifan
Georgina Ruth Williams.
A chofiwch bydd adroddiadau dyddiol ar y wefan y ³ÉÈËÂÛ̳ o Faes yr Eisteddfod a blogio cyson am y mawr a'r bach, y difyr a'r doniol.
Mae drws y wefan yn agored yn barod - piciwch draw.