Gwelodd nef am na nofiai!
Yr oedd Guto'r Glyn a minnau yn yr ysgol efo'n gilydd - hynny yw yr oedd rhai o'i gywyddau yn destun astudiaeth ar y cwrs Cymraeg.
Yr oedd o'n dipyn o arwr i'r hogiau mewn gwirionedd yn mynd yn groes i'r darlun arferol oedd gan rywun o fardd yr adeg honno.
Fe'i ganwyd yn 1440 ac yn ŵr ifanc bu'n filwr bwa saeth gyda byddin Lloegr yn Ffrainc ddiwedd y Rhyfel Can Mlynedd ac un o'r cerddi yr oeddem yn eu hastudio oedd ei gywydd mawl i filwr arall, Mathau Goch:
Mathau Goch, fab maeth y gwin
Biau'r gair yn bwrw gwerin.
Eryr yw hwn ar wyr ieuainc,
Arthur ffriw wrth aerau Ffrainc
medda fo amdano.
Yr hyn a ddaeth ag ef i'r cof yr wythnos hon oedd darllen y cynhelir fforwm yn ymwneud ag ag ef ym Mhafiliwn Cydwladol Brenhinol Llangollen ddydd Sadwrn - Mai 22 - gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth a gafodd arian yn 2007 i ail olygu holl waith Guto.
Daw'r gwaith i ben ddiwedd 2012 gyda chyhoeddi ei waith ar y we yn ogystal ag ar bapur.
Mae'n addas iawn mai yn Llangollen y mae'r fforwm ddydd Sadwrn gan mai yn Abaty Glyn y Groes y treuliodd ei flynyddoedd olaf, yn ddall mae'n debyg.
Clera Môn, cael aur a medd,
Gynt a gawn, Gwent a Gwynedd;
Clera'n nes, cael aur a wnaf,
Yma'n Iâl, am na welaf
meddai wrth edrych yn ôl ar ei fywyd.
Cysylltiad arall wrth gwrs yw iddo gael ei fagu naill ai yng Nglyn Ceiriog neu Lyndyfrdwy ychydig iawn o filltiroedd o Langollen. Rhwng crwydriadau bu'n byw yng Nghoesoswallt a chanu mawl i'r lle.
Yr oedd yn un o brif feirdd ei gyfnod. "Gŵr oedd dwf y gerdd dafod" meddai Gutun Owain wrth ei farwnadu.
Yr argraff a gawn yw ei fod yn greadur hwyliog yn cael ei ddychan gan Lywelyn ap Gutun sy'n ei ddarlunio'n boddi ger Malltraeth ym Môn.
Tristach yw Cymry trostyn
Tre a gwlad, am Uto'r Glyn,
Boddi wnaeth ar draeth heb drai:
Mae'n y nef am na nofiai
meddai hwnnw - ond Guto'n taro'n ôl trwy ddweud - fel y byddai Mark Twain yn dweud ganrifoedd wedyn - fod yr adroddiadau am ei dranc wedi eu gorliwio a chodi amheuon pa mor sobor oedd Llywelyn beth bynnag:
Oni bai win yn ei ben!
Diod a wnai'r tafod soed
Droi'i ben ar y dŵr beunoeth.
Ef a welai fy eilun
Mewn dŵr hallt ym Môn drwy'i hun,
medda fo.
Does ond gobeithio na ddaw cyffelyb hynt ar lannau Dyfrdwy i ran mynychwyr y fforwm y gellir cael mwy o wybodaeth am y gan Angharad Elias, Swyddog Gweinyddol, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth, SY23 3HH - 01970 636543.