³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

'Noson wachul a diffyg chwaeth!'

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:51, Dydd Mercher, 5 Mai 2010

Difyr gweld nad oeddwn yr unig un a siomwyd â seremoni cyhoeddi Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn ym Mangor ddechrau'r mis.

"Gwachul," yw disgrifiad y llenor a'r beirniad llenyddol John Rowlands o'r achlysur yn rhifyn Mai 2010 o - ef, wrth gwrs, yn un a allai fod wedi ennill y wobr pe byddai mewn bodolaeth pan oedd ar ei anterth.

"Seremoni wachul a gafwyd, " meddai gan fynd ymlaen i feirniadu acwsteg "anobeithiol" yr ystafell fel na phrin "y gellid clywed y siaradwyr o'r llwyfan yn glir," meddai gan ychwanegu:

"Prin y gellid eu gweld chwaith, a'r haul yn tywynnu o'r ffenestr tu cefn iddynt.

"Yn waeth byth, pan oedd y seremoni yn tynnu at ei therfyn, dyma sioe deledu yn cychwyn yn y cefn i gystadlu gyda'r darllenwyr ar y llwyfan, nes bod cwestiynau arwynebol ac ystrydebol y gohebwyr teledu'n boddi'r lleisiau ar y llwyfan. Anfaddeuol!"

Heb anghofio, wrth gwrs, eu sŵn yn mynd a dod dros y llawr swnllyd!

Ond o fwy o bwys na'i sylwadau am yr achlysur ei hun yw sylwadau John Rowlands am ddewis y tri beirniad, Y Prifardd John Gwilym Jones, Aled Lewis Evans a Branwen Gwyn, o ddeg o llyfrau.

Mae'n ddamniol gan awgrymu "rhagfarn" o gadw nofel Fflur Dafydd, Y Llyfrgell, oddi ar y rhestr a honno wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn y Genedlaethol a "sawl gwobr arall".

Mae'n holi hefyd "lle'r oedd nofel ysgytwol Lloyd Jones, Y Dŵr" a Dala'r Llanw, Jon Gower a Milwr Bychan Nesta gan Aled Islwyn.

A chan roi un warrog arall i ben yr hoelen gorffen ei sylwadau trwy ddweud:

"Onid profi mae hyn mai mater o chwaeth yw'r cyfan? Nage ddim - mater o ddiffyg chwaeth yn aml iawn."

Dyn heb ei blesio mae'n amlwg - beth wnewch chi o'r rhestr o ddeg?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:59 ar 5 Mai 2010, Owen Wyn ysgrifennodd:

    Ai diddanwch diweddaraf y Cymry yw lladd ar ddewis beirniaid Llyfr y Flwyddyn? Clywais Catrin Beard yn budr draethu yr un druth ar donfeddi Radio Cymru. Onid yw'n bryd dileu'r 'gystadleuaeth' hon i osgoi'r ffrae flynyddol sydd mor nodweddiadol ohonom fel Cymry?
    Hyn neu gyfieithu pob llyfr a chael barn cwbl annibynnol am y cynnwys gan feirniaid profiadol yn ochra Llundain. A hwythau ddewis y deg gorau.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.