Nôl a blaen
Yn ogystal â bod yn Feibl i gynllunio ein dyfodol am wythnos mae cyfrol Rhaglen y Dydd yr Eisteddfod yn un sy'n ein tywys yn ôl i'r gorffennol hefyd ers rhai blynyddoedd bellach.
Perthyn rhyw gyfaredd arbennig i'r lluniau o steddfodau'r gorffennol sy'n cael eu cynnwys ac mae hynny'n wir am 'Rhaglen' Eisteddfod Blaenau Gwent eleni sy'n ein hatgoffa o ymweliad yr Eisteddfod â Glynebwy yn 1958 hefyd.
Yn wir, mae yma hel atgofion am ddwy Eisteddfod mewn gwirionedd - un Cwm Rhymni 1990 hefyd.
Ond Glynebwy 1958 sy'n cyfareddu gan fod hynny gymaint yn ôl.
Dyma'r eisteddfod lle cadeiriwyd T Llew Jones ac mae llun o'r seremoni dan arweiniad yr Archdderwydd William Morris gyda Chynan yn Gofiadur.
Mae llun gwych o Cynan yng nghynulleidfa'r Gymanfa Ganu hefyd a thu cefn iddo yr aelod seneddol lleol ar y pryd, Aneurin 'Nye' Bevan, ochr yn ochr â Paul Robeson a oedd ar ymweliad â Chymru wedi cael caniatâd o'r diwedd gan yr awdurdodau i adael yr Unol Daleithiau yn dilyn gwaharddiad oherwydd lliw ei groen.
Yn yr eisteddfod honno hefyd daeth bachgen ifanc o'r enw Gerallt Lloyd Owen yn ail yn y gystadleuaeth adrodd i fechgyn rhwng 12 a 15 oed.
O 1990 mae lluniau o Iwan Llwyd yn cael ei goroni a Myrddin ap Dafydd yn cael ei gadeirio a llun o'r ddau ar y maes gyda'i gilydd.
Yn fentrus braidd, y llun cyntaf yn 'Rhaglen' yw "rhan o'r dorf ar faes Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 1958 yn y glaw."
I'r gwrthwyneb, fel y bydd y selogion yn cofio, llwch dychrynllyd oedd hynodrwydd Cwm Rhymni.
Mae'r dyfalu yn barod sut y bydd hi eleni . . .