³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Robotig

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:50, Dydd Sul, 11 Gorffennaf 2010

Wythnos yn ôl yr oedd trigolion Wrecsam a'r cylch yn cyhoeddi y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â'r dref yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

Yr oedd y diwrnod y gyfle i edrych ymlaen at Eisteddfod agosach hefyd - yr un yng Nglynebwy ymhen llai na thair wythnos bellach.

Ac yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod fore Sadwrn un o'r atyniadau a ddatgelwyd ar ein cyfer oedd robotiaid yn chwarae pêl-droed ar y maes!

Bydd dau dîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd meddai Richard Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

A hynny'n peri i Geraint Jones, ysgrifennydd y Cyngor, awgrymu, os mai chwarae fel robotiaid fydden nhw mai Lloegr fyddai un o'r timau.

Ydi, mae'n weddus dyfynnu'r hen ymadrodd Saesneg "Many a true Word spoken i jest" yn y cyd-destun ddywedwn i.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.