Coroni
A dyma ni ar gychwyn taith y seremonïau mawr.
Y Goron heddiw ac fel mae Hywel Gwynfryn yn dweud yn ei flog o - y sôn yw y bydd merch enillydd Coron 1958 yn y gynulleidfa ar gyfer y seremoni honno.
Llewelyn Jones Jones oedd y bardd coronog y tro hwnnw yn cael ei goroni gan yr Archdderwydd William Morris ac fel y dywed Hywel yr oedd ei ferch ddeg oed a fydd ybn y pafiliwn eto y pnawn 'ma yn y gynulleidfa i weld ei thad, a fu farw chwe mis wedyn, yn cael ei anrhydeddu.
Fel y digwyddodd ef oedd y cyntaf o ddau Lewelyn Jones a ddaeth i fri yr wythnos honno oherwydd ddau ddiwrnod wedyn yr oedd T Llew Jones yn cael ei gadeirio'n brifardd.
Dau Lew, dau Jones a'r ddau o Geredigion yn ennill y ddwy wobr fawr.
Sut fydd hi eleni tybed? Bydd y dyfalu yn dechrau o ddifrif ar ôl y pump o'r gloch yma.
Mae'r dyfalu wedi dechrau'n barod tybed ai bardd lleol fydd yn codi yn y gynulleidfa y pnawn 'ma.
Daeth bardd o Went yn agos iawn yn Y Bala y llynedd a doedd dim i'w rwystro rhag cystadlu eleni hefyd.