³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfieithu prennaidd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:41, Dydd Iau, 5 Awst 2010

Mae o'n disgrifio ei hun yn y Saesneg fel corff unigryw i Gymru sy'n cael ei gefnogi gan y Comisiwn Coedwigaeth a Llywodraeth y Cynulliad ac wedi ei sefydlu i wella "the performance of businesses and organisations in the forestry and timber sectors".

Mae Cymraeg y corff yn eithaf unigryw hefyd yn ôl datganiad i'r Wasg a gyrhaeddodd faes yr Eisteddfod ddoe gyda chymorth Google Translate.

"Cymraeg cyntaf yn rhoi ffrâm bren window gwneuthurwyr ar lefel maes chwarae gyda'r Almaenwyr," meddai'r pennawd wedi ei gyfieithu o'r Saesneg, "Welsh first puts timber window frame makers on level playing field with the Germans."

Mae'n mynd ymlaen i egluro: "Mae consortiwm o fusnesau Cymreig a faethir yn hyrwyddo coedfenter, wedi cyflwyno i'r farchnad yn gyntaf Cymru sy'n addo i newid y wyneb o adeiladau ar draws DU."

Gan ychwanegu:

"Mae'r system PassivHaus ffenestr Cymru pren newydd yn gam enfawr mewn dylunio sy'n edrych yn debyg i ennill prynwyr yn ôl oddi ar y sector plastig â safonau newydd mewn effeithiolrwydd ynni hirhoedledd, dylunio."

Ac eglurir mai'r hyn sy'n gwneud hyn yn drawiadol yw:

"Beth sy'n gwneud y system newydd - dim ond yr wythnos hon a roddir cymeradwyaeth gan yr awdurdodau Almaeneg - hyd yn oed yn fwy tramiadol yw ei bod wedi cymryd dim ond dau mis a hanner o gysyniad i cynnyrch terfynol.

"Mae'n y ffenestr PassivHaus ardysiedig cyntaf a hynhyrchwyd yn y DU lle y cyflenwr y DU yn dal y dystysgrif," ac yn y blaen.

Caff gwag bach arall i Google Translate ddywedwn i!
Neu "Put your foot in another small surplus to Google Translate I would say!" fel y byddai'r gwasanaeth yn trosi hynny i'r Saesneg.

Y cyngor yw, Bydded ofalus.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.