Cyfrinachau y blychau gwyrdd
Mae'n nhw'n ddirgelwch i rai. Cytiau metel gwyrddion ar hyd a lled y maes heb na ffenest yn agos iddynt a'r drysau trymion ar eu talcen bob amser ynghlo.
Erbyn heddiw mae sawl un wedi bod yn holi i beth maen nhw'n da a beth, os rhywbeth, sydd ynddyn nhw.
Mae yna dri ohonyn nhw wrth ochrau'i gilydd ger Theatr Fach y Maes ac fe allai o leiaf ddatgelu beth sydd yn un o'r rheini.
Achos yn brysur iawn yn ei lenwi y dydd o'r blaen yr oedd aelodau o Gwmni Drama y Gwter Fawr, Rhydaman, dan arweiniad eu cyfarwyddwr, Mel Morgans, (chwith isod) a fydd yn cael ei urddo a'r wisg werdd yn yr Orsedd fore Gwener.
Yn y cwt gwyrdd mae eu propiau hwy ar gyfer dramau fyddan nhw'n eu perfformio yn yr eisteddfod.
Ychydig nol yr oedd Mel yn galw, ar y rhaglen Wythnos Gwilym Owen, am fwy o chwarae teg i gwmniau drama ar y maes.
Ond roedd o'n cyfeirio at fwy na'r cytiau gwyrddion wrth gwrs . . .