Cymdeithas deintydd, bardd a gwleidydd
Gweinidog, bardd, deintydd, gwleidydd - yr oedd T E Nicholas (1879-1971) yn gymeriad tanllyd a lliwgar. Ond wyddai'r Prifardd Hywel Griffiths ddim amdano nes digwydd taro ar un o'i gyfrolau yn stydi ei dad. A chael ei syfrdanu gan danbeidrwydd ei gerddi.
Sut oedd yn bosib na ddaeth ar draws y bardd hwn mewn nac ysgol na blodeugerdd, holai. Dyma'r fardd, meddai, oedd mor berthnasol i'n hoes ni.
Lansiwyd Cymdeithas Niclas y Glais brynhawn ddoe gyda thyrfa barchus iawn ym Mhabell y Cymdeithasau 2 ar faes Eisteddfod Blaenau Gwent a darlith arbennig gan Siân Howys.
"Bardd y werin yn canu i'r dyn cyffredin gan ddyrchafu achos ac enw gwerin bobol Cymru," meddai. Am ryddid, heddwch a chyfiawnder y canai ac yr oedd ei ddiwinyddiaeth gymdeithasol yn ddieithr iawn ym marddoniaeth Cymru yn y cyfnod cyn y Rhyfel Mawr.
Cafodd ei fagu mewn cymdeithas glos, gydweithredol, lle'r oedd y ffermwyr yn helpu ei gilydd. Lladd gwair ar un fferm yn y bore ac ymlaen gyda'i gilydd i gywain ar fferm arall yn y prynhawn.
Gadawodd yr ysgol yn 13 oed ac aeth maes o law i Academi'r Gwynfryn yn Rhydaman lle'r oedd Watcyn Wyn yn athro. Bu am gyfnod yn weinidog yn America ond dychwelodd a bu'n weinidog yn Y Glais, lle daeth yn boblogaidd iawn gyda'r glowyr.
Cafodd Siân Howys amser difyr yn pori yn ei golofnau yn y Merthyr Pioneer, sef papur Keir Hardie.
Sefydlodd gangen o'r ILP (y Blaid Lafur Annibynnol) yn Y Glais ac aeth wedyn at y Blaid Gomiwnyddol. "Byddai plismon yn aml iawn yn y capel gwrando ar ei bregethau," meddai Siân.
Taranai yn erbyn Arwisgo 1911 a'r un modd yn erbyn Arwisgo 1969, ddwy flynedd cyn ei farw.
Yn y carchar oherwydd ei heddychiaeth, yn ystod yr Ail Ryfel, y dechreuodd sgrifennu sonedau. Mae'n debyg iddo'u sgrifennu ar bapur tŷ bach ac iddo gyflwyno'r rholyn i Iorwerth Peate pan oedd yn ŵr gwâdd yng nghinio Gŵyl Ddewi staff Sain Ffagan ddechrau'r pum-degau. Ni soniodd Siân am hynny. Tybed ble mae'r rholyn hwnnw?
Beth bynnag, y mae'r farddoniaeth mor ffres a pherthnasol ag erioed. A phan fu farw yr oedd teyrngedau iddo yn Y Tyst a'r Morning Star. Tipyn o ystod.