³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia 'Nglynebwy - Mawrth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 13:11, Dydd Mercher, 4 Awst 2010


Mae Nia Lloyd Jones Radio Cymru yn sibrwd o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent gydol yr wythnos.

O'n i'n swp sâl yn dod i'r maes bore ma. Un peth ydi siarad hefo'r cystadleuwyr gefn llwyfan ond peth arall ydi camu ar y llwyfan i ganu cerdd dant!

A dyna ddigwyddodd bore ma. Diolch byth, doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun - gan fy mod i unwaith eto nôl yng nghanol criw Parti'r Ynys.

Nia a Leah

Roeddem ni yno fel sypreis i Leah Owen - gan ei bod hi'n derbyn medal T H Parry-Williams heddiw er clod.

Fe ddechreuais i ganu hefo Parti'r Ynys pan oeddwn i'n naw oed - dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl bellach, a Leah oedd yn ein hyfforddi ni.

Mae gan i atgofion melys iawn o fynd i dÅ· Mrs Owen - mam Leah - yn Rhosmeirch i ymarfer a finna yn cael canu hefo cantorion o fri - megis Anwen a Nia, Carys a Gwenda a Sian Eirian.

Does gen i fawr o lais - ond yn eu canol nhw ro'n i'n swnio'n llawer gwell!
A phan ddaeth yr alwad i ail ffurfio ar gyfer y ddefod heddiw - wel cytuno wnes i yn syth.

Mae gen i, fel cymaint o rai eraill, ddyled fawr i Leah. Mae hi'n hyfforddwraig arbennig iawn ac yn llwyddo i dynnu'r gorau allan o bob un.

A naddo, wnes i ddim anghofio'r geiriau chwaith!


Un o'r cystadlaethau cyntaf ar y llwyfan bore ma oedd y Grŵp Offerynnol ac unwaith eto eleni roedd Telynorion Cwm Derwent o Derby yn cystadlu.

Criw bywiog iawn sydd wrth eu boddau yn dod i'r Eisteddfod bob blwyddyn.

Ond roedd na un aelod ar goll heddiw - sef Elin Lloyd. Roedd hi wedi gorfod mynd i'r ysbyty i roi genedigaeth i'w phlentyn cyntaf bore ma! Diolch byth na ddigwyddodd hynny ar lwyfan y Brifwyl!

Braf oedd cael cwmni tri gŵr bonheddig yng nghystadleuaeth yr unawd i fechgyn -Huw Ynyr Evans, Rhodri Jones a Meilir Jones.

Huw Ynyr Evans, Rhodri Jones a Meilir Jones
Mae'r tri yma yn adnabod ei gilydd yn dda - gan mai nhw oedd ar y llwyfan yn yr un gystadleuaeth yn yr Urdd. Mae'r tri hefyd yn aros am ganlyniadau lefel A, cyn mynd i'r coleg.

Roedd Huw Ynyr a Rhodri yn cyfaddef eu bod yn nerfus iawn heddiw, a'r ddau wedyn yn gwrando hefo'i gilydd ar berfformiad Meilir Jones ac yn tybio mai fo fyddai'n ennill.

Yn ogystal â bod yn gantorion da, mae nhw'n feirniaid craff heddiw - gan eu bod nhw'n hollol gywir, Meilir aeth a hi.

Dwi'n edrych ymlaen bob blwyddyn i gwrdd â ffrindiau gefn llwyfan, ac un ohonyn nhw yn arbennig, Shay Siwoku.

Mae dwy flynedd ers inni gwrdd yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd pan oedd Shay yn stiwardio am y tro cyntaf.

Nia a Shay
Mae o wedi bod wrthi'n dysgu Cymraeg ers rhai blynyddoedd ac roedd ganddo newyddion mawr imi eleni ei fod newydd basio'r arholiad Uwch ac, yn naturiol, roedd o ar ben ei ddigon ac yn cyfaddef yn onest - ei fod o bellach yn ystyried ei hun yn Gymro.

Yn sicr doedd o ddim angen tystysgrif i brofi hynny i mi, ond dwi'n sicr yn llawenhau yn ei lwyddiant, ac yn dymuno'r gorau iddo.

Shay, dwi'n edrych ymlaen i gael sgwrs eto flwyddyn nesaf, ac i drafod ymhellach dy fwriad o chwilio am waith lle byddi'n cael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.