Nia 'Nglynebwy - Sadwrn
Mae Nia Lloyd Jones Radio Cymru wedi bod yn hel clecs cefn llwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent gydol yr wythnos. Dyma ei chyfraniad olaf - wrth edrych ymlaen at Wrecsam 2011:
Wel dyma ni wedi cyrraedd y Sadwrn olaf! Anodd credu mod i yma ers wythnos gron. Mi ges i ddiwrnod yng nghanol y dynion heddiw - diolch i gystadlaethau'r corau meibion.
Y côr cyntaf ar y llwyfan bore 'ma oed Côr Undebol Ar ôl Tri, dan arweiniad Wyn Lewis - y milfeddyg - a dyna ichi gôr!
Yn eu rhaglen roedden nhw'n perfformio darn comisiwn arbennig oedd yn deyrnged i Dic Jones, ac roedd mab Dic - Dafydd - yn y côr.
Roedd Dafydd druan yn cyfaddef ei fod o'n dal yn dysgu'r geiriau ar y ffordd i'r maes bore ma. Fel arfer, fe ganodd y côr yn wych, a chipio'r wobr gyntaf wedyn - am y degfed tro.
Mae hi wastad yn braf cael gair hefo Edryd Williams. Mae Edryd yn hen law ar y busnes cystadlu 'ma, a fo ddaeth i'r brig eleni ar yr unawd gerdd dant dros 21 oed.
Peiriannydd ceir ydi o, ac os 'dach chi'n chwilio am gar go grand, mae ganddo hen Jaguar sydd yn cael ei ddefnyddio'n aml mewn priodasau! Pwy a ŵyr, ella gwnaiff o ganu i chi hefyd tra dach chi yn y car.
Doeddwn i ddim wedi cael yr un sws gan neb tan heddiw. Roedd Côr Meibion Llanelli newydd fod ar y llwyfan yn cystadlu yng nghystadleuaeth y corau meibion mawr a thra'n sgwrsio wedyn hefo Eifion Thomas (yr arweinydd), mi welwn i ddyn tal a golygus yn nesau, a dyma gael cusan a sgwrs yn fyw ar yr awyr!
Byron Thomas oedd o - un o aelodau gwreiddiol y côr - yn aelod ers 1964. Gŵr bonheddig go iawn.
Yr uchafbwynt i'r unawdwyr heddiw oedd cystadleuaeth y Rhuban Glas a Huw Euron oedd yr enillydd teilwng eleni.
O gofio bod y wobr yn cael ei rhoi eleni gan ei deulu - er cof am ei dad, Ieuan Jones - roedd Huw yn naturiol dan deimlad ac yn cyfaddef nad oedd o wedi meddwl am eiliad y byddai'n ennill.
Ac yn aros amdano yng nghefn y llwyfan roedd Meinir, ei wraig.
Fe briodon nhw bythefnos yn ôl ac er mwyn i Huw gael cystadlu yma eleni, fe bendefynon nhw ohirio'r mis mel - tan fory.
Yn sicr - roedd hi'n werth gwneud hynny. Llongyfarchiadau mawr iawn i Huw, ac yn sicr mae 'na wirionedd yn yr hen ddywediad yn does bod na wraig dda y tu ôl i bob dyn da.
Mae 'na dîm arbennig iawn o bobl sydd wedi gweithio'n hynod o galed ar gyfer yr Eisteddfod hon ac ro'n i'n falch iawn o gael â'u capten, Richard Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
Mae o wedi bod yn llawn egni a brwdfrydedd ar hyd y daith ac yn amlwg wedi mwynhau o'r dechrau i'r diwedd.
Mae o hefyd yn obeithiol mai nid dyma fydd y diwedd ac y bydd yr iaith a'r diwylliant yn parhau i ffynnu yn yr ardal.
Felly be mae o'n mynd i'w wneud yr wythnos nesaf? Cloi ei hun yn y tÅ·, ac edrych ar raglenni'r Steddfod!
A dyna ni, Steddfod arall wedi gorffen. Diolch i Richard a'r criw i gyd am eu gwaith caled, a diolch yn fawr i bawb fu'n sgwrsio hefo fi gefn llwyfan. Dw i wedi mwynhau pob munud ac os byw ac iach mi wela i chi eto yn Wrecsam flwyddyn nesaf.
(