³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau, bach

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:22, Dydd Gwener, 3 Medi 2010

Cofio Owen Edwards, gwerth llyfr, iaith barddoniaeth, gwella clwyfau a holi cymhleth - rhai dyfyniadau a dynnodd sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf.

A chofiwch mai'r cyngor ar gyfer heddiw yw - i wneud y Pethau Bychain. Pethau fel cyfrannu i'r blog hwn er enghraifft!

  • Nid yn unig yn un o gewri'r byd darlledu yng Nghymru ond yn un o fawrion ein cenedl. Fe wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i barhad ein diwylliant a'n hunaniaeth fel gwlad - John Walter Jones, cadeirydd S4C, yn talu teyrnged i a fu farw'n 76 oed.
  • Roedd cyfraniad Owen i ddatblygiad y cyfryngau yng Nghymru yn eithriadol ac yn un na welwyd ei debyg. Cafodd S4C, ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru a Radio Wales oll eu lansio o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig. Roedd gan Owen y ddawn unigryw o gael y gorau o bawb oedd yn gweithio yn ei gwmni. Yr oedd ei gariad at Gymru yn angerddol ac fe fydd ei gyfraniad gwerthfawr i fywyd cyhoeddus y genedl yn dysteb barhaol - Menna Richards, pennaeth ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru.
  • Dwi wedi dysgu mwy mewn 12 rhaglen na wnes i mewn tair blynedd yn yr ysgol. Gobeithio y byddwch chithau'n mwynhau gymaint ag y gwnaethon ni, ynde. Ac y bydd y ffigyrau gwylio'n profi BOD pobl yn gwylio S4C! - Nodyn gobeithiol gan Bethan Gwanas am ei chyfres deledu newydd am oes Fictoria.
  • Flynyddoedd yn ôl yn ardal Rhuthun a Cherrigydrudion roedd Sister Richards . . . [yn] gwella pob 'bedsore' trwy lenwi y dolur gyda wy wedi'i sgramblo, gan newid y driniaeth bob tri diwrnod. Roedd sôn lawer am y driniaeth wyrthiol yma - Llythyr yn y 'Daily Post Cymraeg' gan Beti Watson, Rhuthun.

  • Yn sicr dydw i ddim yn bwriadu aros adref yn gwneud teisennau - Julie Morgan yn cydnabod yei bod yn ystyried sefyll yn etholiadau nesaf y Cynulliad.
  • Cyfaill am oes yw llyfr da - Menna Elfyn.

  • Mae cyfartaledd o bedair trosedd dreisgar neu rywiol yn digwydd ar dir ysgolion yng Nghymru bod diwrnod o'r tymor ysgol - Adroddiad yn y 'Wales on Sunday'.
  • Yr ydym ar fin lansio coctel £2,000 gyda diemwnt yng ngwaelod gwydr Martini - Gary Holiday rheolwr clwb nos newydd Amici yng Nghaerdydd; gan ychwanegu, "Rwy'n credu y bydd pobl yng Nghaerdydd yn talu amdano - mae'n ddiod sy'n ddatganiad."
  • Tair canrif . . . dwy iaith . . . un brifysgol - hysbyseb Prifysgol Y Drindod Dewi Sant.
  • Bron yn annirnadwy Gymreig ar y cychwyn, roedd Jones yn gwbl annealladwy erbyn diwedd yr ail wythnos wrth i nerfau ac adolygiadau brwnt mewn papurau newydd gynyddu - Remote Controller 'Private Eye' am Alex Jones.
  • Os ydi pobl eisiau eu gwenyn ac adar, rhaid iddyn nhw dalu'n iawn amdanyn nhw - Robert Wynne Evans, cadeirydd yr FUW ym Meirionnydd yn gofidio nad yw ffermwyr yn cael tâl digonol dan y cynllun Glastir.
  • Yr ydym [ef a'i briod, Ffion] yn ymwybodol y gall pwysau anffrwythlondeb yn aml roi priodas dan straen ond yn ein hachos ni, diolch am hynny, nid yw ond wedi dod a ni'n agosach at ein gilydd. Bu'n brofiad hynod drawmatig a phoenus ond mae'n priodas yn gref ac fe wynebwn beth bynnag a ddaw yn y dyfodol gyda'n gilydd - William Hague AS.
  • Mae'r cerddi gorau yn oesol - maen nhw'n berthnasol i bob cenhedlaeth. Mae'n holl bwysig ein bod ni'n eu cofio a'u trosglwyddo. Maen nhw'n rhan annatod o'r DNA oesol sy'n ein gwneud yn genedl - Mererid Hopwood un o gyflwynwyr cyfres newydd 'Gwald Beirdd' ar S4C.
  • Rydw i'n ddiolchgar i'r comisiwn am gyhoeddi'r adroddiad heddiw a'u sylwadau am ba mor eglur yw cwestiwn y refferendwm a'r rhagarweiniad iddo -
  • Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol (y Cynulliad) y pwerau i ddeddfu ar gyfer Cymru ar rai pynciau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Mae'r meysydd sydd wedi'u datganoli yn cynnwys iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, llywodraeth leol a'r amgylchedd. Caiff y Cynulliad ennill mwy o bwerau i ddeddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli trwy gael cytundeb gan Senedd y Deyrnas Unedig, a hynny fesul pwnc.
    Os bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio 'Ydw' yn y refferendwm hwn, bydd y Cynulliad yn ennill pwerau i ddeddfu ar bob pwnc yn y meysydd sydd wedi'u datganoli. Os bydd y rhan fwyaf yn pleidleisio 'Nac Ydw', bydd y trefniadau presennol - sef trosglwyddo'r hawl i ddeddfu bob yn damaid, gyda chytundeb Senedd y Deyrnas Unedig bob tro - yn parhau.
    Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cynulliad gael pwerau yn awr i ddeddfu ar yr holl bynciau yn y meysydd sydd wedi'u datganoli heb fod angen cytundeb Senedd y Deyrnas Unedig yn gyntaf?
    RHOWCH X MEWN UN BLWCH YN UNIG
    Ydw, rydw i'n cytuno
    Nac ydw, dydw i ddim yn cytuno - Cwestiwn 'annealladwy' a rhy anodd adran Cheryl Gillan.
  • Mae gan y Cynulliad y pwerau i lunio deddfau mewn 20 maes pwnc, megis amaethyddiaeth, addysg, yr amgylchedd, iechyd, tai, llywodraeth leol.
    Mae'r cynulliad yn gallu llunio deddfau ar rai materion ym mhob maes pwnc ond nid ar faterion eraill.
    Er mwyn llunio deddfau ar unrhywun o'r materion eraill hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad ofyn am gytundeb Senedd y DU.
    Yna mae Senedd y DU yn penderfynu bob tro a gaiff y Cynulliad lunio'r deddfau hyn neu beidio. Ni all y cynulliad lunio deddfau mewn meysydd pwnc fel amddiffyn, trethi neu fudd-daliadau lles, beth bynnag fo Canlyniad y bleidlais hon.
    Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio 'Ydw,' bydd y cynulliad yn gallu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddyn nhw heb orfod cael cytundeb Senedd y DU.
    Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio 'Nac ydw,' bydd yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn parhau.
    A ydych yn dymuno i'r cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt? Ydw / Nac ydw - Awgrym 'mwy dealladwy' y.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.