³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

'Myfi yw y gair'

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 09:11, Dydd Iau, 30 Medi 2010

Profi'r honiad na chafodd unrhyw lyfr fwy o ddylanwad ar yr iaith Saesneg na'r Fersiwn Awdurdodedig o'r Beibl - y King James Bible - y mae'r ieithmon o Gymru, David Crystal, yn ei lyfr diweddaraf.

Er wedi ei eni yng Ngogledd Iwerddon yng Nghaergybi y magwyd David Crystal sy'n cael ei gyfrif yn un o ysgolheigion iaith blaenaf y byd.

Mae'n Athro Ieitheg er Anrhydedd ym , lle bu'n ddarlithydd, yn gymrawd o'r Academi Brydeinig ac yn awdur dros gant o lyfrau gan gynnwys y Cambridge Encyclopedia of Language.

Ei lyfr diweddaraf, sydd newydd ei gyhoeddi, ydi Begat: The King James Bible and the English Language. (Rhydychen £14.99)

Yn y llyfr 336 tudalen mae'n dangos mai bach iawn fu dylanwad y Beibl hwnnw ar ramadeg, geirfa, sillafu ac atalnodi y Saesneg ond iddo ddylanwadu'r fawr ar ddefnydd pobl o ddywediadau.

Yn wir mae Crystal yn olrhain 257 o ddywediadau sy'n dal mewn iws bob dydd i'w tarddiad yn y Beibl - o gymharu â 100 o idiomau o weithiau Shakespeare.

Ymadroddion fel

  • Salt of the earth,
  • From strength to strength,
  • Skin of his teeth,
  • Rod of iron
  • No rest for the wicked,
  • Fly in the ointment,
  • Wheels within wheels.

Oll a'u gwreiddiau yn y Beibl hwnnw ac yn dal i gael eu defnyddio gan bobl o siop gornel i stiwdios Hollywood waeth beth eu cred na'u argyhoeddiadau crefyddol.

Mae'n gyfrol hynod o ddifyr a gyhoeddwyd i gydfynd â phedwar canmlwyddiant cyhoeddi'r King James.

Wrth gwrs, bu dylanwad ein Beibl Cymraeg ninnau yr un mor drawiadol yn yr union un ffordd a bu gennym ninnau ers rhai blynyddoedd lyfr cyn ddifyrred bob tamed yn rhestru'r idiomau hynny.

Cyhoeddwyd Y Gair yn ei Bryd - Casgliad o Ymadroddion o'r Beibl gan yn 1994.

Yr awdur ydi'r Parchedig Huw Jones (Y Bala gynt ond yn awr yn byw yn Rhuddlan) awdur y pedair cyfrol sylweddol Cydymaith Byd Amaeth yn cofnodi ac yn egluro geiriau ac ymadroddion amaethyddol Cymraeg.

"Brithir yr iaith," meddai Huw Jones gan ymadroddion a dywediadau o Feibl William Morgan. Maent yn rhan o'n sgwrs feunyddiol er nad pawb sy'n sylweddoli hynny.

"Bu'n chwarel idiomau heb ei thebyg i'r Cymro," meddai.

Ei gasgliad 206 dalen ef oedd yr un cyntaf o ymadroddion Beiblaidd yn ein iaith bob dydd gan gychwyn gydag Achubn y Blaen a gorffen gydag Ysgwydd dan yr arch.

Yn naturiol, mae Huw Jones yn nodi'r bennod a'r adnod ar gyfer pob dywediad ac y mae'n llyfr gyda'r difyrraf i bori ynddo.

Hyd y gallai weld does gan Gwales ddim copi ar werth ond fe ddaeth yr hen gyfaill Google o hyd i un.

Beth bynnag - cyn ffarwelio dyma ddeg dywediad o'r llyfr - a'u lle yn y Beibl

  • Gwreiddyn y mater - Job 19:28
  • Gwneud ymdrech deg - 2 Timotheus 6:12
  • Yr euog a ffy - Diarhebion 28:1
  • Cymryd enw'n ofer - Ecsodus 20:7
  • Canu'n iach - Actau 18:18
  • Calon galed - Eseciel 3:7
  • Pwll diwaelod - Datguddiad 20:1
  • Dydd ypethau bychain - Sechareia 4:10
  • Drwy groen ei ddannedd - Job 19:20
  • Y dall yn tywys neu arwain y dall - Mathew 15:14

Dan eich bendith . . .

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.