³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Palu geiriau - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:16, Dydd Gwener, 15 Hydref 2010

Esgid unig, bendithion datganoli, pryderon S4C, medalau'r Gymanwlad a myfyrwyr ddoe a heddiw - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf

A gwahoddiad i chwithau bêl rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Roedd yr esgid yn gyfforddus iawn felly penderfynais brynu'r pâr. Aeth y ferch i nôl yr esgid arall. Yn y diwedd daeth hi'n ôl. 'Alla i ddim ffeindio'r llall,' meddai. Wedyn, yn Saesneg gofynnodd: 'Woud the one be of any use to you?' Anhygoel. - Profiad llythyrwr yn 'Y Cymro', Roger Kite, Llanandras, mewn siop esgidau yn Aberystwyth.
  • Mae'r rhan fwyaf o garcharorion o Ogledd Cymru yn cael eu cadw yng Ngharchar Altcourse lle mae dewos eang o darpariaeth Gymraeg er mwyn cynnal yn benodol siaradwyr Cymraeg - Crispin Blunt AS y Gweinidog Carcharau yn San Steffan.
  • Mae datganoli wedi helpu Cristnogion a phobl o aml ffydd i ddod at ei gilydd - Archesgob Cymru.
  • Ni bellach yw rhieni y genhedlaeth nesaf o awduron plant - Angharad Tomos yn Yr Herald Cymraeg.
  • Dydi colli dwy gêm ddim wedi gwella fy ngobeithion ar gyfer y swydd - Brian Flynn.
  • Mae'n ymddangos i mi fod pobl yn ymdrechu yma i ffeindio beiau yn ddi-angen - Alun Ffred Jones AC, Y Gweinidog Diwylliant, yn am yr ymateb i welliannau Mesur Iaith.
  • Mae'r consensws hwn yn golygu bod y Llywodraeth yn sefyll o flaen gôl agored a'r bêl wrth ei thraed, ond yn dewis peidio â saethu - Emyr Lewis, yn 'Golwg', am gonsensws yn y Pwyllgor Deddfwriaeth i gynnwys cymal yn y Mesur Iaith yn dweud: "Y Gymraeg a'r Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru, ac mae eu dilysrwydd a'u statws yn gyfartal".
  • Dwi'n disgwyl rhyw fath o newid i'r ffordd ... mae talu am . Ar hyn o bryd di ni ddim yn gallu torri'n ôl o gwbwl ond mae dipyn bach yn od os bydd pob corff dros Brydain yn cael ei dorri'n ôl, ond S4C. - Glyn Davies AS Ceidwadol Maldwyn.
  • Dwi'n edrych ymlaen i chwilio drwy fy newid mewn siop er mwyn gweld fy narn i o arian - o Fro Morgannwg, un o dri o Gymru, a fu'n llwyddiannus yn dylunio darn 50c newydd.
  • Rhys yw'r person perffaith ar gyfer y rhan yma - Matt Tolmach o gwmni Columbia Picutres yn cyhoeddi mai fydd dyn drwg y ffilm SpiderMan nesaf.
  • Mae eu bywydau yn wahanol iawn i fywyd myfyrwyr yn y 50au pan nad oedd rhaid talu ffioedd ac nid oedd angen poeni o ble'r oedd y pryd nesaf o fwyd yn dod. A'r gwahaniaeth mwyaf wrth gwrs oedd nad oedd gennym ni hawl i fynychu tafarn o gwbl. Mae ctynnal Wythnos y Glas yn gofyn am or-yfed a gorwario. Druan ohonynt. - Hafina Clwyd yn cymharu bywyd myfyrwyr ddoe a heddiw yn .
  • Dim ond saith diwrnod sydd ar ôl i berswadio'r gweinidog - Arwel Elis Owen yn crynhoi'r .
  • Bydded ofnus, bydded yn ofnus iawn bawb ohonoch sy'n poeni am y Bedwaredd Sianel Gymreig, S4C - Brawddeg agoriadol llith golygyddol y 'Daily Post', Hydref 15.
  • Yr olaf 'de. Mwy o sylw - Caryl Parry Jones yn berffaith sicr ai yn gyntaf ynteu'n olaf fyddai hi'n dymuno cael ei hachub o grombil y ddaear!
  • 2; 7; 10 - nifer y medalau, aur, arian ac efydd a enillodd Cymru yn Gemau'r Gymanwlad yn Delhi. 19 i gyd.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.