³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pêl-droed arall

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:35, Dydd Mawrth, 26 Hydref 2010

Y dyddiau hyn pan yw eilunod pêl-droed yn y newyddion am gyflawni pob math o gampau amheldroedaidd mewn clybiau a gwelyau mae'n hawdd iawn anghofio am bêl-droed go iawn llawr gwlad.

Ond molawd i un o'r clybiau bychain ydi'r llyfr diweddaraf o wasg .
Clwb na fydd llawer ohonom wedi clywed amdano o'r blaen ond sy'n cael ei ddisgrifio fel "Inter Milan Ceredigion" gan y cyhoeddwyr.

Clwb gyda'r enw Saesneg grand, nodweddiadol o'r cyfnod, Trefeurig & District United.

Rhwng 1948 a 1953 y bu Trefeurig & District United yn chwarae pêl-droed yng nghynghrair Aberystwyth a'r Cylch gan chwarae mewn pum tymor 94 o gemau cynghrair - ac ennill ond 13 yn ôl y llyfryn dwyieithog Caneris melyn Trefeurig / Trefeurig's yellow canaries gan Richard E Huws.

Clawr y llyfr

"Mae'r llyfr," meddai'r cyhoeddwyr, "nid yn unig yn rhoi hanes y tîm, ond mae'n gronicl pwysig hanesyddol a chymdeithasol o oes a fu.

"Chwaraeai'r tîm ar gae oedd dros 700 troedfedd uwchben y môr ym Mancydarren mewn ardal ddiarffordd yng ngogledd Ceredigion, a thynnwyd chwaraewyr o bentrefi pell ac agos i'w gynrychioli."

Ond gan ddibynnu'n bennaf ar chwaraewyr o bentrefi plwyf Trefeurig fel Bancydarren, Cwmerfyn, Cwmsymlog a Phen-bont Rhydybeddau.

"Ond yn ogystal bu'n rhaid denu chwaraewyr o bentrefi cyfagos fel Bow Street, Capel Bangor, Derwen-las, Llanbadarn Fawr, Llanfarian, Taliesin, Tal-y-bont a Thrawsgoed a daeth nifer o fechgyn hefyd o Aberystwyth a Phenparcau, ac ymhlith y 70 a fu'n cynrychioli'r tîm roedd nifer o fyfyrwyr y brifysgol," meddir.

Mae'r llyfryn yn cynnwys bywgraffiad byr o bob chwaraewr, yn eu plith fechgyn o dras Albanaidd, Almaenaidd, Eidalaidd a Gwyddelig, yn ogystal â nifer o Saeson a ymsefydlodd yn yr ardal.

"Fel Inter Milan roedd Trefeurig hefyd yn dim rhyngwladol!" meddir.

Ond gyda 13 buddugoliaeth allan o 94 mae'r tebygrwydd yn gorffen - ar whan, wrth gwrs i'r elfen o hwyl a balchder lleol.

Richard E Huws, cyn-aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac awdur The football and rugby playing fields of Wales yw'r awdur ac mae rhagymadrodd gan Tegwyn Jones, yr awdur a'r cartwnydd a fu'n chwaraewr ac yn gefnogwr Trefeurig.

Llyfr, gyda'i luniau o grwpiau ac unigolion sy'n siŵr o sgorio'n lleol ac a fydd o ddiddordeb mewn cylchoedd eraill ac efallai, pwy a ŵyr, yn sbardun i eraill fentro i gyhoeddi..

Ei bris ydi £6 yn y siopau neu £7 i gynnwys cludiant a phacio os archebir drwy'r post.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:13 ar 26 Hydref 2010, Richard Huws ysgrifennodd:

    Diolch o galon am roi sylw i'm llyfryn. Richard

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.