Cawodydd o areithwyr sych
Do, fe gefais innau hefyd profiad o sefyll yn y glaw yn gwrando ar areithwyr sych yn methu dod o hyd i ddiwedd eu truth.
O'r herwydd gallwn gydymdeimlo â Mari Emlyn pan yw'n holi ym mhapur bro Bangor a oes prinder areithwyr da ymhlith y to presennol o Gymry.
Byddwn ymhlith y cyntaf i amenio yr hyn a ddywed yn Y Goriad.
Chwarae a'r syniad yr oedd hi, ar ôl bod yn darllen llyfr Saesneg, Speeches That Changed the World, o lunio cyfrol debyg yn y Gymraeg a dechrau dyfalu pwy fyddai'n ennill eu lle ynddi hi.
"Mae'n debyg y byddai'n rhaid cynnwys pregethwyr 'mawr' fel Christmas Evans, Evan Roberts a John Williarns Brynsiencyn," meddai.
"Byddai Lloyd George yn un i'w gynnwys, ynghyd a Michael D Jones ac, yn fwy diweddar, Hywel Teifi Edwards."
Wedyn, mae'n ychwanegu:
"Fedrwn i ddim meddwl am lawer o ferched y gallwn eu disgrifio fel areithwyr blaenllaw, ar wahân i ambell eithriad posib fel Eluned Morgan a Megan Lloyd George."
Ond yn waeth na hynny, mae'n sylweddoli hefyd fod pawb sydd ar ei rhestr wedi marw erbyn hyn a hynny'n ei harwain i holi:
"Pwy sydd gennym heddiw yng Nghymru i draethu'n huawdl ar faterion o bwys?"
Wedyn mae'n sôn am ei phrofiad mewn rali yng Nghaernarfon yn gwrthwynebu toriadau'r Con-demniaid.
"Rhaid cyfaddef mai siomedig oeddwn i, a sawl un arall yn y dorf, yn wyneb diffygion areithio llawer o'r siaradwyr," meddai.
"Mae'n debyg nad oedd y glaw didostur yn help y diwrnod hwnnw. Mae eisiau dogn o hiwmor i gynnal torf wleb, oer, ynghyd a rhywfaint o sensitifrwydd a synnwyr cyffredin i wybod pryd i dorri araith yn ei bias," meddai.
Mae'n gofyn, "Beth sy'n gwneud areithiwr da?" gan ateb ei chwestiwn ei hun trwy nodi'r gallu i siarad heb atal dweud! Ond mae'n chwalu'r dyb bod yn rhaid bob amser wrth lais da:
"Doedd llais trwynol, crynedig Saunders Lewis ddim yn gaffaeliad iddo fel siaradwr; ond yr hyn oedd ganddo oedd meistrolaeth lwyr ar iaith a thestun ac argyhoeddiad llwyr yn ei gred a'i egwyddorion," meddai.
Fel Mari bum innau yn sefyll yn y glaw ar Faes Caernarfon - a mannau eraill - a'r ffaith fy mod yn ceisio cofnodi'r hyn oedd yn cael ei ddweud mewn llyfr nodiadau oedd yn prysur droi yn swp gwlyb o bapur yn ychwanegu at fy syrffed.
Dros y blynyddoedd deuthum i'r casgliad mai diffyg pennaf y rhan fwyaf o areithwyr y ralïau hyn oedd anallu llwyr i wybod pryd i orffen.
Onid ydio'n rhyfeddod crelon mai anallu pennaf cenedl y mae Dewi yn nawddsant iddi yw gwybod pryd i dewi?
Rhai yn mynnu gwneud eu pwynt nid yn unig ddwywaith ond deirgwaith, bedair, ac fe allech fod yn dawel eich meddwl y byddai'r siaradwr nesaf yn arddel ein hail ddiffyg cenedlaethol o leisio'r un dadleuon yn union a'i ragflaenwyr deirgwaith, bedair.
Gan roi'r argraff mai'r feddylfryd oedd; "Yr ydw i wedi dod yma i ddweud hyn ac mi rydw i'n mynd i'w ddweud doed o ddel waeth faint o syrffed achosir gan hynny".
Na, os aiff Mari ymlaen â'i bwriad i gyhoeddi cyfrol chaiff hi mohoni'n un hawdd ei llenwi â lleisiau diweddar . . .
Be ddwedwch chi?
Oes yna unrhyw areithiwr gwir afaelgar y dyddiau hyn? Un gwerth sefyll mewn glaw neu mewn gwres llethol i wrando arno.
SylwadauAnfon sylw
Yr unig un oedd ag unrhyw ddawn areithio yn y glaw hwnnw yn Nghaernarfon oedd Dafydd Iwan. Ond ychydig o wleidyddion y dyddiau yma sydd a'r ddawn i danio un dyn byw. Tasa nhw'n ei medru hi fyddai angen refferendwm ar Fawrth 3?