Wrth ddychwel tuag adref
Cawsom ein hatgoffa ddoe o hen, hen, gysylltiad Eisteddfod yr Urdd ag ardal Abertawe gan gyfarwyddwr yr eisteddfod bresennol, Aled Sion.
Yma yn 1931 y cynhaliwyd eisteddfod genedlaethol gyntaf yr Urdd yn y de.
Yn Eisteddfod dridiau fe'i cynhaliwyd ym Mhafiliwn Patti, Neuadd Sant Gabriel a Sain Helen gyda 2,000 o gystadleuwyr yn ymgiprys am y gwobrau.
Yr oedd 18, meddai Aled Sion, yn cystadlu mewn cystadleuaeth ddrama yn theatr y Grand.
Ond yn bwysicach na hynny, o bosib, ar ei ffordd adref o'r eisteddfod honno yr aeth Syr Ifan ab Owen Edwards ar gyfeiliorn braidd a cholli ei ffordd.
Ond o wneud hynny daeth ar draws fferm o'r enw Cefn Cwrt.
"A dyna," meddai Aled Sion, "wnaeth iddo benderfynu sefydlu gwersyll haf cyntaf yr Urdd yn Llangrannog."
Ac yr oedd y gwersyll hwnnw yn agored erbyn 1932 ac, wrth gwrs, yn dal i fynd o nerth i nerth.