³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Canwr y Byd 2011 - Dydd Llun

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 05:21, Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011

Ail gyfraniad Gwyn Griffiths o'r gystadleuaeth.

Prynhawn dydd Llun
Y gystadleuaeth yn poethi
Codwyd y safon fymryn eto brynhawn ddoe yn nhrydedd rownd ragbrofol y Datganiad gyda phedwar o gantorion y bydd yn gamp i'r beirniaid swyddogol eu gwahanu.

I'r answyddogol yn ein plith rhaid ailfeddwl o ddifri pwy sy'n debyg o gyrraedd y llwyfan terfynol.

Hynny gyda phedwar o hyd heb eu clywed a chystadleuaeth ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd Caerdydd lle bydd pob cystadleuydd yn canu gyda cherddorfa heb gychwyn.

Y cyntaf ar lwyfan y Theatr Newydd brynhawn Llun oedd bariton ifanc 24 oed o'r Wcráin, Andrei Bondarenko - bachgen digon golygus ag i gynhesu calonnau'r gynulleidfa cyn canu nodyn.

Gyda rhaglen amrywiol, ramantaidd i'w plesio fwy fyth. Y fath lais - ystod eang, gyfoethog i fyny ac i lawr. Llais clir, amryddawn gyda'r gallu i gyflwyno'r gerddoriaeth dawel yn gyfareddol.

Dechreuodd gyda chân serch gan Rachmaninov, geiriau gan y bardd Rwsieg Afanasy Afanas'yevich Fet. Yna cawsom y gerdd, Nebbie (Niwloedd), geiriau'r Eidales Ada Negri wedi eu gosod i gerddoriaeth gan Respighi; cân o waith Grieg wedyn i.eiriau gan Goethe; a'r Chanson à boire gan Ravel, lle mae Don Quixote yn cynnig llwnc destun hwyliog a meddw i ddiota. Perfformiad llawen - ond cynnil.

Gorffennodd gyda chân o waith y cyfansoddwr o'r Wcráin, Anatoly Kos-Anatolsky, cân serch lle mae'r bardd yn cyfarch ei ddyweddi sydd â chalon fel draenen a thafod fel rasal.

Dyma seren yn sicr - cofiwch yr enw, Andrei Bondarenko.

Buasem wedi ein bodloni ganddo ef yn unig ond yna daeth soprano o'r Almaen, Susanne Braunsteffer, 31 oed.

Bu hi'n llai mentrus gyda'i dewis - un gân Ffrangeg o waith Debussy, a phedair cân Almaenig, dwy gan Schumann, un o waith yr Awstriad Alban Berg, a'r olaf o waith Richard Strauss.

Dyma gantores aeddfed, yn arddangos melyster ei llais gan adeiladu'n raddol a datgelu rheolaeth a hyder. Dyma goelia i, y soprano orau hyd yn hyn o blith cnwd o sopranos ardderchog.

Ni chawsom raglen mor amrywiol ganddi a'r gŵr ifanc o'r Wcráin ond 'doedd hon ddim am ddatgelu'r cyfan o'i doniau - mae mwy eto i ddod.

Y nesaf i'r llwyfan oedd Helen Sherman , mezzo-soprano o Awstralia, yn 29 oed brofiadol, danbaid, hyderus. Canodd ddwy gân o waith R Strauss, tair hwiangerdd gan Benjamin Britten - un, The Highland Balou, yn osodiad ar eiriau Robbie Burns - a gorffen gyda chân o waith Clara Schumann.

Rhaglen ddiddorol a phleserus a chantores arall sy'n gerddor ymhob ystyr.

Daeth prynhawn rhyfeddol o gerddoriaeth i ben gyda Valentina Naforniţä o Foldofa, soprano ifanc 24 oed. Hudolus o hardd ac yn llawn o ryw gyfriniaeth ddieithr gyda rhyw dristwch angerddol, breuddwydiol i'w llais.

Cyflwynodd berfformiadau o gerddoriaeth gan Tchaikovsky, Liszt, Schubert a Le Galop gan y Romaniad Enescu.

Dyma gantores sy'n swnio fel soprano bur, llyfn ei sain a nodau fel grisial.

Dyna oedd prynhawn i'w gofio. Pwy fuasai am fod yn feirniad?


Nos Lun
Olesya'n gosod y safon am yr eildro
Olesya Petrova o Rwsia ddaeth gyntaf i'r llwyfan brynhawn Sul a gosod safon uchel i'r wythnos.

Neithiwr, yn Neuadd Dewi Sant, trawodd Olesya ergyd arall drwy gipio gwobr y noson yn y gyntaf o rowndiau rhagbrofol cystadleuaeth ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd Caerdydd 2011.

Olesya

Nid yw bod yn enillydd noson yn sicrwydd o gyrraedd y llwyfan terfynol, ond nid oedd amheuaeth ymysg y gynulleidfa nad ganddi hi y cafwyd y perfformiad mwyaf caboledig.

Dyma fezzo-soprano, 28 oed, ond eisoes mae'n berfformwraig gyflawn orffenedig. Fel yr oeddwn wedi rhagweld o'i chlywed yn canu i gyfeiliant piano brynhawn Sul, yr oedd hi'n gwbl gysurus a hyderus gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y ³ÉÈËÂÛ̳.

Dyma un o leisiau cyfoethocaf y gystadleuaeth mor belled a dangosodd arweinydd y gerddorfa, Jac van Steen, ei gymeradwyaeth o'i pherfformiad o Mon coeur s'ouvre à ta voix allan o Samson et Dalila gan Saint-Saëns.

Ei dwy gân arall oedd Adieu, forêts o The Maid of Orleans, gan Tchaikovsky ac Acerba voluttà allan o'r opera Adriana Lecouvreur gan yr Eidalwr, Francesco Cilea.

Rhoddwyd cychwyn ardderchog i'r noson gan y soprano Anna Leese, 30 oed o Seland Newydd. Dyma lais gyda'r tlysaf, nodau uchel llyfn a chlir fel grisial. Gellid gwrando ar hon am oriau heb flino dim arni.

Cychwynnodd gyda Chân y Lloer Dvořák a'i rhoes ar delerau da gyda'r gynulleidfa'n syth, gyda Donde lieta usci allan o La Bohème gan Puccini yn dilyn. Canodd gân Margherita sy'n gwallgofi wrth wynebu ei dienyddio allan o'r opera Mefistofele gan yr Eidalwr Arrigo Boito a gorffennodd gydag alaw o I vespri siciliani gan Verdi.

Yr ail ganwr oedd y baswr o Armenia, Vazgen Ghazaryan , yn 32 oed yn un o'r hynaf yn y gystadleuaeth. Mae'n meddu llais cadarn, llyfn a chyfoethog. Cawsom ddwy alaw ganddo o waith Verdi, un allan o Mefistofele gan Boito ac un gan Rakhmaninov.

Teimlais iddo haeddu gwell ymateb na'r un llugoer a gafodd gan y gynulleidfa.

Ar ei ôl ef canodd enillydd y noson, Olesya Petrova, ac wedi'r egwyl daeth y soprano 26 oed o Fwlgaria, Maria Radoeva

Yr oeddwn wedi ei chlywed hi brynhawn Sul yng nghystadleuaeth y Datganiad pryd y teimlwn i'w nerfusrwydd gael y gore arni. Neithiwr yr oedd yn fwy hyderus ond hwyrach fod anaeddfedrwydd cerddorol yn gyfrifol am iddi ddewis cynifer o ddarnau anodd.

Ni chafodd yr anhawster lleiaf i gyrraedd y nodau uchaf ond ni fedrwn gynhesu at ei llais llachar. Ei pherfformiad gorau yn ddi-os oedd o'r Alleluja allan o Exsultate, jubilate gan Mozart.

Hudwyd fy llygaid gan ei ffrog oedd fel pe mewn perygl o lithro oddi ar ei breichiau i'r llawr. O na fuasai gan bawb gystal chwaeth ag Anna Leese o Seland Newydd.

Daeth y noson i ben gyda'r bariton 26 oed o Rwmania, Serban Vasile a ganodd dair cân - o waith Mozart, Donizetti a Tchaikovsky. Yr oedd yn brofiadol, yn hyderus ac yn amlwg yn gerddor. Yn rhyfedd iawn, fel gydag Vazgen Ghazaryan, yr ail i ganu, ni chafodd ymateb gwresog gan y gynulleidfa.

Er hynny, ni chlywais neb yn cwyno am ddyfarniad y beirniaid. Gosododd y ferch o Rwsia y safon am yr eildro yr wythnos hon.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.