Dyddiau appus Steddfodau fu
A fuo chi yno neu beidio mae cyfle ichi gael tynnu eich llun yn rhai o eisteddfodau cofiadwy y gorffennol ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam yr wythnos hon.
Mae hynny'n cynnwys eisteddfodau 1977, 1933 a 1912 yn Wrecsam ei hun. Neu Eisteddfod Aberdâr yn 1956.
Mae'r cyfan yn bosibl trwy app gan Casgliad y Werin Cymru sydd a rhan bwysig yn nathliadau canrif a hanner yr Eisteddfod Genedlathol eleni.
Mae lluniau a dynnwyd yn yr eisteddfodau wedi eu gosod mewn gwahanol fannau o amgylch y maes fel y gellir eu gweld drwy gyfrwng yr app rhad ac am ddim Realiti Estynedig Layar ar gyfer ffonau poced iPhone, Android ac Ovi Nokia.
O sefyll yn y lle iawn a throi eich ffôn atoch eich hun gallwch dynnu llun ohonoch eich hun mewn lleoliad o'r gorffennol.
Gofynnir i ddefnyddwyr wedyn, anfon y llun o'u hunain yn cyfarfod cymeriadau ac yn rhyngweithio â nhw i flog 'Labordai' Casgliad y Werin.
Bydd y lluniau yn cael eu dangos ar sgrin yn stondin Casgliad y Werin gyda gwobr am y ddelwedd orau neu'r llun odiaf.
I lawrlwytho'r app cliciwch