Geiriau'r wythnos
Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.
- Wy'n galw ar y sefydliadau Cymreig gan gynnwys yr Orsedd, Llywodraeth Cymru, yr eglwysi, merched y wawr, Urdd Gobaith Cymru, Clybiau ffermwyr Ifanc, y Prifysgolion, ac awdurdodau lleol ledled Cymru i annog Awdurdod y Gemau Olympaidd i godi baner Cymru ac nid Jac yr Undeb uwchben medalwyr Cymru; ac i anrhydeddu medalwyr Cymru drwy chwarae Hen Wlad fy Nhadau - Yr Archdderwydd T James Jones, Jim Parc Nest, yn seremoni cyhoeddi Prifwyl Bro Morgannwg, 2012.
- Cyn bod plant, galafantiwr - oeddwn i;
Byddai nyth i glerwr.
Rwyf bellach yn gallach gŵr:
Rwyf innau'n garafaniwr.
Twm Morys yn datgan ar gynghanedd yn ei fod bellach yn berchen carafán! - Erbyn hyn mae'n ddigon tebygol fod yna fwy o foch daear nag o bobl yn byw yn y rhan hon o Gymru - Lyn Evans o Ogledd sir Benfro mewn llythyr yn Y Cymro.
- Maen nhw eisiau ail-greu'r coridor M4 fyny yn y gogledd - Arwyddocâd cynllun dadleuol i ddyblu maint pentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych yn ôl y nofelydd Lloyd Jones yn .
- Wrth edrych ar siart Top 20 S4C rwy'n falch nad oes gen i deledu - David R Edwards (Datblygu) mewn llythyr yn 'Y Cymro' lle mae'n galw hefyd am Magi Dodd "ar y radio yn ystod y prynhawn".
- Mae dishgled o de yn gweithio mewn ffordd nad yw'r gwin - Aneirin Karadog, bardd a darlledwr, yn dweud wrth 'Golwg' beth sy'n ei gymell i greu.
- Bob tro y mae wedi bod yng Nghaerdydd y mae wedi gwir fwynhau ei hun ac mae'r chwaraewyr bob amser yn falch o'i weld - Dennis Gethin, llywydd Undeb Rygbi Cymru yn sôn am y Tywysog William.
- Dydi pensiynau ddim yn fater sydd wedi ei ddatganoli - ar ran y Cynulliad Cenedlaethol yn sgil streic dydd Iau.
- Mae gennym ni diwylliant gwahanol, ac efallai ffordd wahanol o fyw, ond nid ydym yn fwystfilod - , swyddog cyswllt Sipsiwn, Cyngor Sir Powys, wrth drafod dathliad yng Nghasnewydd.
- Mae pobl hÅ·n yn gwneud cyfraniad anferthol i fywyd Cymru - Ruth Marks, Comisiynydd Pobl HÅ·n Cymro yn dilyn cyhoeddiad bod mwy o bobl dros 65 yn byw yng Nghymru nag o rai dan 16.
- Gan fy mod bron yn ugain stôn does yna ddim llawer o bobl y gallaf eu dynwared - Dion Griffiths, sy'n dynwared Roy Chubby Brown mewn noson yn Llai i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
- Cwestiwn olaf i'r ymgyrchwyr Iaith a'r trefnwyr gigs Cymraeg - pwy sy di bod yn ôl i Glyn Ebwy? - Rhys Mwyn yn atodiad Yr Herald Cymraeg yn y 'Daily Post'.
- Mae marwolaeth yn rhan o brofiad pob un ac yn rhan o fywyd ein cymunedau. Pam felly yr ydym fel eglwysi yn cilio rhagddo ac yn ofni sôn amdano? - Cwestiwn Yr Athro Mari Williams, ymgynghorydd ym Mhrifysgol Lerpwl, yn atodiad Y Pedair Tudalen y papurau enwadol.
- Mae'n sefyllfa go bryderus gweld llyfrau'n mynd mor anweledig yn y stryd fawr, yn arbennig o gofio mor sydyn y diflannodd y siopau recordiau. Ac mae'r anogaeth i ddarllen llyfre'n mynd i fod yn anodd i genhedlaeth ifanc sydd prin yn gwybod beth yw llyfr, heb sôn am allu canolbwyntio digon i ddarllen un cyflawn - Lefi Gruffudd yn galaru dros drai siopau llyfrau yng Nghaerdydd a threfi eraill.
- Yr ydym yn mynd i ennill 'Miss World' eleni ac mi fydd hynny'n rhoi pawb yn stret - Paula Abbandonato, trefnydd cystadleuaeth 'Miss Wales' yn sgil stori yn y 'Western Mail' yn awgrymu mai'r Cymry yw'r rhai hyllaf ym Mhrydain.
- Yr oedd yn benderfyniad anodd gadael Caerdydd ond yr oedd y penderfyniad iawn, wedi ei wneud i fynd at well tîm a gwell clwb - Dai Young yn gadael Gleision Caerdydd i hyfforddi'r Wasps.