³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sul y Steddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Sian Lloyd Sian Lloyd | 13:15, Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011

Mae'n ddydd Sul ac yn ddiwrnod prysur iawn yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Ac am y tro cyntaf, dwi wedi cyflwyno Oedfa'r Bore o'r stiwdio. Cafodd y gwasanaeth ei arwain gan y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts a disgyblion o Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam.

Wrth i'r oedfa ddod i ben, roedd yna gannoedd o rieni yn aros tu allan yn barod am berfformiad gan y Mudiad Meithrin. Mae'r Mudiad yn dathlu ei benblwydd yn 40 eleni ac 'roedd hi'n hyfryd gweld y plant bach lleol yn dawnsio a chanu ar y llwyfan, gyda'r rhieni balch yn gwylio. Roedd yna deimlad teuluol iawn i'r achlysur.

Dyw hi ddim mor heulog ar y Maes heddiw-roedd hi'n boeth iawn ddoe -a daeth yr ymwelwyr yn llu gydag agos at 18,000 o bobl yn tyrru i'r Eisteddfod ar y dydd Sadwrn cyntaf. Mae'n cadw'n sych mor belled ac mae'n hwylus i gerdded ar hyd y maes gan fod yna awel fach deg yma. Mae'r Maes yn edrych yn gret-mae yna deimlad o ofod a gwyrddni o'n cwmpas er ei bod hi nepell o ganol tref Wrecsam.

Ces i gyfle i gael sgwrs gyda thri allan o'r pedwar dysgwr sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Mae'n mynd i fod yn dasg go anodd i'r beirniaid benderfynu ar enillydd ddydd Mercher nesa. Roedd hi'n ddifyr iawn gwrando ar straeon Kay Holder, Neil Wyn Jones a Sarah Roberts.

Pnawn ma bydd y cystadlu yn ei anterth -mwy o fandiau pres, corau ac mae hyd yn oed dawnsio disgo a hip hop. Rhywbeth at ddant pawb! Yn y Babell Len fydd na ddathliad o waith Aled Lewis Evans-y Bardd Cymreig fu'n gymydog i mi wrth i mi dyfu i fyny yn Wrecsam.

Mae'n andros o brysur a dwi heb gael cyfle i siopa eto. Mae'r stondinau'n edrych yn ddiddorol iawn ac mae gen i fy ffefrynnau -dwi'n siwr wnai ffeindio'r amser cyn diwedd yr wythnos!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:28 ar 31 Gorffennaf 2011, Annette Strauch ysgrifennodd:

    Es i'r Steddfod ddoe, ac mi ges i ddiwrnod wrth fy modd. Prynais i rhai o lyfrau, scarf neis a welais i lawer o bobl yno. Joies i"r maes yn Wrecsam. Mi gawsom ni croso mawr ar y stondin Cymru a"r Byd achos 'rydyn ni"n dod o Loegr a hefyd o"r Almaen. Mi gawsom coffi, te, bwyd Indiaidd ar ol yr agoriad swyddogol y lle celf a rhai o gyngerddau.

    Gwych!


    Cofion gorau, Annette

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.