Drama'r Eisteddfod
'Nid byd, byd heb wybodaeth' medden nhw ond i lawer ohonom, 'Nid byd, byd heb ddrama'. Ac mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn amlwg o'r un farn gyda digon o amrywiaeth dramatig i chi garwyr drama ar y Maes.
Yn y gorffennol roedd hi'n draddodiad i'r Eisteddfod Genedlaethol gomisiynu 'drama fawr' a lwyfannwyd mewn theatr gyfagos i'r maes. Ond yn y blynyddoedd diwethaf mae pethau wedi newid ac eleni mae'r Eisteddfod yn cyd-weithio gyda nifer o gwmnïau drama ar amryw o gyflwyniadau theatrig sy'n syniad da iawn am nifer o resymau. Mae'n cynnig arlwy llawer mwy eang o ddramâu, yn rhoi platfform i nifer o gwmnïau drama mawr a bychain i gyflwyno'u gwaith yn yr Eisteddfod ac yn rhoi cyfle i fwy o ysgrifenwyr hefyd i ddangos eu doniau.
Mae'r Theatr Genedlaethol ar y maes o dan arweinyddiaeth ei Chyfarwyddwr newydd, Arwel Gruffydd. Eleni mae'r Theatr yn cyflwyno sawl rhagflas o'i gwaith ar y Maes a sesiynau adrodd stori a gweithdai i'r cyhoedd yn ei 'Chaffi Theatr' newydd yn hytrach na chyflwyno un 'sioe fawr.'
Bob prynhawn mae yna ddramâu byrion yn cael eu cyflwyno yn Theatr y Maes am 5.30pm. Cwmni Theatr 3D o Gaerdydd oedd â'r llwyfan ddydd Llun gyda'r ddrama, 'Wyneb Dros Dro.' Tro'r Theatr Genedlaethol oedd hi ddydd Mawrth a Chwmni Drama Ynys Towyn oedd yn diddanu ddydd Mercher gyda pherfformiad o ddrama Wil Sam, 'Y Fainc'. Drama Emyr Edwards, 'Dringo yn yr Andes' oedd dewis Cwmni Hap a Damwain ddydd Iau.
Heno bydd criw o fyfyrwyr drama Prifysgol Morgannwg, 'Y Graddedigion' yn cyflwyno drama gan un o'u darlithwyr, Sera Moore Williams, 'Riff'. Mae 'Riff' yn ddrama heriol a chyfoes am Gymro ifanc ar ffin cymdeithas sy'n mynnu bod rhywun yn gwrando ar ei gri. Dyma gyfle da i arddangos talentau'r dyfodol yn yr Eisteddfod.
Mae'r gystadleuaeth ddrama wedi cael slot newydd hefyd - bob canol dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda phum cwmni drama, Licris Olsorts, Theatr Fach Llangefni, Y Parc, Gwter Fawr a Cwm-ni yn cystadlu am Gwpan Gwynfor.
Dyw'r Eisteddfod heb anghofio'r plant chwaith gyda Chwmni Arad Goch yn cyflwyno 'Penbobi Hapus' ac yn rhoi cyfle i'r to ifanc i gwrdd â chymeriadau poblogaidd teledu, 'Bobinogi' yn fyw ar y llwyfan. Tra bod Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno 'Gardd Gerdd Hudol Iori'. Datblygwyd y sioe yn arbennig i'r rhai bach o dan bump oed ac mae'n gyfle iddynt fwynhau sioe gerdd ryngweithiol gyda chriw o gerddorion proffesiynol. Mae Cwmni'r Fran Wen hefyd wedi paratoi sioe i'r plant o dan bump, gydag addasiad o'r stori dylwyth teg, 'Little Beauty'.
Mae gan Gwmni Theatr Bara Caws hanes gref yn Eisteddfod Wrecsam gan iddynt berfformio am y tro cyntaf yn y fro yn Eisteddfod Genedlaethol 1977. I ddathlu'r garreg filltir hon, mae'r cwmni yn cyflwyno dwy sioe, 'Un Fach Flewog' ac 'X-Fod'.
Drama X-Fod
Sioe Glwb newydd gan y Ffarmwr Ffowc ei hun, Eilir Jones, yw 'Un Fach Flewog', gyda'r stori wedi'i lleoli mewn siop anifeiliaid anwes (sy'n dwyn atgofion o 'Pwsi' Mrs Slocombe gynt ar 'Are you Being Served?!'). Mae'n cael ei chynnal yng Nghlwb RAFA Wrecsam, ergyd carreg o'r Maes.
Mae'r Cwmni yn mentro i dir newydd yn yr Eisteddfod eleni hefyd gan gynnal 'gig' bob nos ar ôl perfformiad o'r sioe sy'n syniad gwych dwi'n meddwl. Bu Gai Toms a'i fand, John ac Alun a Wil Tân eisoes yn perfformio yr wythnos hon. Bryn Fôn a'r Band sy'n diddanu ar ôl perfformiad o'r ddrama heno.
Mae sioe deuluol Bara Caws, 'X-Fod' yn cael ei llwyfannu yn y Maes Carafannau ac yn anffodus ar nos Lun, fe wnaeth y glaw sbwylio'r sbri a bu'n rhaid gohirio perfformiad cyntaf y ddrama. Gydag 'hen stagers' poblogaidd fel Iwan John a Lisa Jên yn perfformio ynddi, ysgrifennwyd y ddrama gan Tudur Owen, Tony Llywelyn a Martin Williams.
Mae 'SgriptSlam' Theatr y Sherman yn ôl eleni eto hefyd. Dyma lle mae dramâu byrion gan ysgrifennwyr newydd yn cael eu perfformio 'sgript mewn llaw' gan actorion proffesiynol. Ar ôl pob perfformiad, mae panel o arbenigwyr yn rhoi eu hadborth gyda'r gynulleidfa'n dewis ei ffefryn.
Gan fod yr Eisteddfod yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed eleni, roedd hi'n amserol iawn i edrych yn ôl. Testun y Ddarlith Ddrama eleni oedd Hanes yr Arglwydd Howard de Walden gyda Hazel Walford Davies yn ei chyflwyno. Bu farw de Walden yn 1946 ac roedd yn noddwr a chefnogwr hael i'r Eisteddfod ac i ddatblygiad y Ddrama yng Nghymru. Cafodd y gynulleidfa gyfle i ymweld â chyn gartref De Walden ar ôl y ddarlith yng Nghastell Y Waun.
Mae'n ddigon amlwg felly bod byd y ddrama yn ddigon iachus o hyd yn yr Eisteddfod ac yng Nghymru a diolch fyth am hynny.
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.