Nadu am nodau
Cael fy nghornelu rhwng llwyfan perfformio a stiwdio gerdd gan rywun yn nadu am y nodau, fel petai.
"Welsoch chi glawr Rhaglen y Dydd?" meddai hi.
A do'n wir, yr oeddwn wedi ei weld ac edmygu'n fawr y llun.
Llun ydi o geg corn neu drwmped neu rywbeth gyda dalen hen nodiant wedi ei gadw yno.
Ond lle'r oeddwn i'n gweld ffrwyth dychymyg a gwreiddioldeb holi wnaeth y fenyw gerddgar;
"Ond copi wedi ei ddyblygu o gerddoriaeth sydd yn y corn. Ac onid ydy dyblygu darnau cerdd yn groes i ddeddfau hawlfraint ac yn arferiad y dylai'r Eisteddfod o bawb ei anghymeradwyo."
Wel, os ydi HI'N dweud . . .
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.