³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tri pheth, un Eisteddfod - dau feirniad

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:17, Dydd Iau, 4 Awst 2011

Does yna ddim byd gwell gan gynulleidfa na chlywed beirniad yn codi ar ei draed i a chychwyn traddodi gyda geiriau fel, "Fydda i ddim yn hir" neu "Mi fydda i'n fyr".

Ac yn wir wedi noson hir o gystadlu neithiwr dyna glywodd y gynulleidfa gan Ddafydd Lloyd Jones yn beirniadu cystadleuaeth y côr ieuenctid dan 25 oed tua'r hanner awr wedi deg yma - a rhoddwyd ochenaid ddiolchgar o ryddhad.

Ond bobol bach, ddeng munud yn ddiweddarach yr oedd y beirniad yn dal i beidio bod yn hir ac ambell un yn y gynulleidfa yn dechrau ofni fydden nhw adref cyn brecwast.

"Mi fu wrthi am chwarter awr neu fwy - neu o leiaf roedd yn teimlo felly yr adeg honno o'r nos," meddai un oedd yn gwrando.

Na, dyw torri rhywbeth yn ei flas ddim yn rhywbeth sy'n digwydd yn aml iawn ymhlith y Cymry.

Beirniad gafodd ganmoliaeth neithiwr, fodd bynnag, oedd Gareth Glyn. Yn traddodi beirniadaeth Tlws y Cerddor cynhwysodd ef glipiau sain i egluro beth oedd ganddo i'w ddweud.

Y tro cyntaf, hyd y gwyddom, i hynny ddigwydd ond yn ôl yr ymateb yn sicr yn rhywbeth a ddigwydd eto yn y dyfodol.

Yn drydydd, Un cwestiwn sydyn: Gyda dyfarnu Tlws y Ddrama y pnawn ma ,mae ambell un yn holi, tybed oedd hi werth i Manon Rhys adael y maes dros nos.
Dramatig iawn

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.