³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Clywed am Kate

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:09, Dydd Gwener, 18 Tachwedd 2011

Dim llawer o amheuaeth mai'r llyfr Cymraeg y bydd y mwyaf o drafod arno wrth i'r don o lyfrau Nadolig olchi drosom ni ydi cofiant newydd Kate Roberts gan Alan Llwyd.

Wrth gwrs, ddiwrnod ei gyhoeddi heddiw ei ddatgeliadau am rywioldeb Brenhines Ein Llên fydd yn hawlio'r sylw a bydd yn ddiddorol gweld y dystiolaeth y sylfeinir arni y ddamcaniaeth bod Kate Roberts yn hoyw ac iddi geisio datgelu hynny mewn ffordd gudd drwy ei gwaith.

Yr oedd yn wybyddus ers rhai blynyddoedd bod ei gŵr, Morris T Williams, mewn perthynas agos â'r bardd Prosser Rhys - ond y mae Alan Llwyd wedi dod ar draws gwybodaeth, yn ôl y Lolfa, cyhoeddwyr y llyfr sy'n cael ei lansio yn yr Orendy yn Aberystwyth heno, sy'n mynd gam ymhellach na hynny.

Heb weld y llyfr eto - mae'r cyfan yn awgrymu mai dyma lyfr y flwyddyn hyd yn hyn a gallwch fentro y bydd gan Alan Llwyd bethau gwerthfawr i'w dweud hefyd am yr awdures hon â'i gwaith yn gyffredinol.

Mae'r llyfr yn cael ei ddisgrifio fel "cofiant cyflawn" ac mae'r rheini yn bethau prinnach na phupur yn y Gymraeg gyda chyfrol Rhys Evans, Rhag Pob Brad, am Gwynfor yn eithriad gwiw pan y'i cyhoeddwyd. Diolch felly i Alan am wneud beth sy'n ymddangos yn 'job iawn' arall.

Ta waeth mae'r newyddion am Kate, yn fy atgoffa i o bennawd ar ddalen flaen Y Cymro rai blynyddoedd yn ôl pan ddatgelwyd yr wybodaeth yn gyhoeddus gyntaf am rywioldeb Morris Williams. Ie, dyna chi, "Gay yn y Grug".

Braidd yn wleidyddol amhropor erbyn heddiw bosib - ond sgwn i welwn ni ei ddefnyddio eto dros y dyddiau nesaf . . .

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.