Cymeriadau Ll欧n - pobl Ioan Roberts
Cwyno wnawn ni fod cymeriadau yn darfod ond dydy nhw ddim, oherwydd mae rhai eraill yn dod yn eu lle, nid i lenwi eu sgidiau ond i greu eu sgidiau unigryw eu hunain.听
Ond fel y dywed Ioan Roberts, golygydd Cymeriadau Ll欧n, mae鈥檙 arferion a鈥檙 amgylchiadau a鈥檙 galwedigaethau a luniodd y cymeriadau a bortreadir yn y gyfrol wedi diflannu a hynny鈥檔 rhoi gwerth iddi i鈥檙 hanesydd lleol a chymdeithasol a deunydd darllen difyr, diddorol, i鈥檙 rhai hynny ohonom sydd ddim yn poeni am bethau o鈥檙 fath.
-
听Cymeriadau Ll欧n. Golygydd Ioan Roberts. Cyfres Cym锚rs Cymru. Gwasg Gwynedd. 拢5.95
Idris Evans 鈥 Tarw Nefyn 鈥 yw鈥檙 unig gymeriad y teimlwn fy mod i鈥檔 gwybod rhywfaint amdano diolch i seiad nos Fawrth, flynyddoedd go lew yn 么l, yng nghwmni golygydd y gyfrol ac un arall oedd wedi chwarae gyda鈥檙 Tarw, Orig Williams a Robin Ken i d卯m Dyffryn Nantlle.听
Rheini oedd y dyddiau da pan fyddai鈥檙 miloedd yn heidio i wylio gemau Bangor, Caernarfon, Pwllheli, Porthmadog 鈥 llond wyth bws yn mynd bob Nadolig i wylio Pwllheli鈥檔 chwarae Caernarfon.
Bellach mae鈥檙 Tarw dros ei bedwar ugain ac yn chwarae bowls. 鈥淕锚m bach dda 鈥 jyst bo fi ddim yn cael taclo!鈥
Wedyn, dyna bortread y Parch Meirion Lloyd Davies o鈥檙 Parchedig Morgan Griffith.听 Diddorol fuasai olrhain faint o w欧r yr Efengyl fu yn y sgw芒r bocsio cyn troi tua鈥檙 pulpud.听 Dynion fel 鈥淒an bach o Bontypridd鈥 a Morgan Jones, Hendy-gwyn-ar-D芒f, 鈥mountain fighters鈥 hyd yn oed!
Yn llinach y rheini y daw Morgan Griffith 鈥 pencampwr bocsio yn y coleg a鈥檌 fam, hefyd, yn dipyn o ddynes yn magu tri o weinidogion a dal i regi fel tincar!听
Mae鈥檔 amlwg i Morgan ddysgu rhywfaint wrthi.听 Er yn gapten Clwb Golff Pwllheli, gwrthwynebodd benderfyniad y clwb i ganiat谩u chwarae ar y Sul.
Pregethodd yn erbyn y penderfyniad mewn cyfarfod awyr agored ar y Maes ym Mhwllheli ar y prynhawn Sadwrn cynt.听 鈥淎 gobeithio bydd hi鈥檔 glawio ar y diawlad fory,鈥 taranodd.
Mae yma amryw o ysgrifau portread ardderchog, fel un Gwyneth Owen am ei thad, John Rowlands, gyrrwr lori laeth ac englynwr.听 Dyna鈥檙 dyddiau pan fyddai llawer ohonom yn manteisio ar y lori laeth am lift i rywle neu鈥檌 gilydd ar fore Sadwrn.
A beth am yr englyn hwn o鈥檌 eiddo i Fwthyn Nain?
Bwthyn heb fawr o bethau 鈥 a fu鈥檔 Nef
I Nain gynt a minnau,
A brwyn o gors y bryniau
Yno鈥檔 do i ni ein dau.
Cymeriadau lliwgar fel y Si么n Bodantur ddyfeisgar a鈥檌 chwaer awengar Ann o L欧n.听 Eisteddfotwyr dawnus, wedyn, fel y canwr gwerin, Harri L么n, a gyflwynir mewn campwaith o ysgrif gan Eleri Llewelyn Morris, a鈥檙 adroddwraig, Neli鈥檙 Hendra, un o sawl portread graenus gan Ioan Roberts ei hun.
鈥淒wi wedi ennill amball dro am mai fi oeddwn i, ac wedi colli am yr un rheswm dro arall.听 Mympwy beirniad ydi hwn i gyd,鈥 meddai Neli, a hithau wedi beirniadu bum gwaith yn y Genedlaethol.
Hoffais yn fawr y portread o Dafydd Parry yr Ocsiwn茂ar, cowlaid o straeon da.听 Oes yna arwerthwyr sy鈥檔 bwrw drwyddi鈥檔 ddwyieithog y dyddiau hyn?听 Cofiaf rai鈥檔 gwneud yn mart Tregaron slawer dydd.听
Un dda yw鈥檙 stori am angladd hen lanc o ffermwr cefnog heb unrhyw berthnasau agos ond nifer o rai pell 鈥 gobeithiol.听 Wedi鈥檙 angladd cyhoeddodd Parry o ddrws o festri 鈥 鈥淧awb sy鈥檔 perthyn i鈥檙 Band of Hope, dewch yma ar eich union鈥.
Cyfrol i ysgafnhau鈥檙 cyfnod wedi鈥檙 Nadolig 鈥 a nid jyst ar gyfer pobol Ll欧n!听听听听听听听