Llestri Lowri
Bu Nantgarw yn ysbrydoliaeth i mi- y lle, y traddodiad, yr holl hanes, ac yn fwy na dim y llestri a gynhyrchwyd yma, meddai Lowri Davies. Bydd arddangosfa o鈥檌 gwaith yn agor yn Amgueddfa Grochenwaith Nantgarw, nos Wener, Rhagfyr 9.听
Er iddi dreulio pedair blynedd gyntaf ei bywyd i fyny鈥檙 rhiw yn Nhonteg, yn Aberystwyth y cafodd ei magu a chael ei haddysg gynnar yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Uwchradd Penweddig.
听
鈥淢ae blodau鈥檔 bwysig fel addurniadau porslen Cymreig, yn enwedig gwaith Nantgarw,鈥 meddai.听 Hyd yn oed cyn agoriad swyddogol ei harddangosfa safai gweithiau Lowri ochr yn ochr barchus gyda鈥檙 casgliad bychan o gynnyrch amhrisiadwy Nantgarw sydd yn yr amgueddfa.听
Mae i鈥檙 adeilad a鈥檙 safle, lle unwaith y llithrai鈥檙 badau heibio ar eu ffordd rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd, bwys Ewropeaidd, oherwydd mae olion yr hen gelfyddyd yma o hyd.听
听Mae鈥檙 hen odynnau yn y cefn, mae yma grochenydd, Sally Stubbins, yn gweithio ac yn hyfforddi dosbarthiadau - a saif yr hen d欧 yn gadarn rhwng y man lle bu unwaith y gamlas 芒鈥檌 thrafnidiaeth hamddenol a rhuthr gwyllt presennol yr A470.
鈥淩ydw i wedi bod yn astudio ac arsylwi patrymau Cymreig eraill,鈥 meddai, 鈥減orslen Abertawe, Llanelli, Bwcle, Ewenni 鈥 a rwy i听 wedi bod yn ymwybodol o draddodiadau Cymreig eraill.听 Yr oedd tacsidermydd adnabyddus - Hutchings - yn Aberystwyth yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau鈥檙 ugeinfed ganrif.
鈥淵n Ysgol Gynradd Aberystwyth yr oedd nifer o anifeiliaid wedi eu stwffio mewn blychau gwydr.听 Welwn i ddim byd rhyfedd yn y peth, roedden nhw i鈥檞 gweld yn Amgueddfa Aberystwyth, hefyd, ac yn gyffredin yn nhai pobol yr ardal.
鈥淔elly rwy i听 wedi bod yn astudio鈥檙 rhain a鈥檜 cop茂o ffel ffynhonnell arall i addurn fy ngweithiau.鈥
Ffynhonnell arall i鈥檞 haddurniadau yw鈥檙 straeon ias ac ysbryd a glywodd ar aelwyd ei nain yn ardal Machynlleth 鈥 fel honno am yr ysbryd drwg a garcharwyd mewn tebot.
Mae addurniadau ei llestri ar yr olwg gyntaf yn ymddangos yn draddodiadol Gymreig ond o syllu鈥檔 fanwl arnyn nhw fe welir nad ydyn nhw鈥檔 mor draddodiadol a hynny.听
Ar debot fe geir llun yr ysbryd a garcharwyd mewn tebot.听 Mae ganddi ddawn i gynhyrchu lluniau bach gosgeiddig wedi ei datblygu o鈥檙 syniadau a鈥檙 arddull a w锚l ar lestri Nantgarw.听
鈥淵n blentyn byddai fy nhad yn fy annog i wneud lluniau bach, bach, gyda phen ac inc.鈥
O Ysgol Penweddig aeth Lowri i Goleg Sir G芒r i wneud cwrs sylfaen mewn celf.听 Oddi yno aeth i Goleg Celf听 Caerdydd (UWIC) gan raddio mewn Cerameg yn 2001.听 鈥橰oedd ganddi ewythr yn byw yn Nhon-teg a chafodd rwydd hynt ar 么l graddio i ddefnyddio鈥檌 garej fel stiwdio.
鈥淵na es i Brifysgol Swydd Stafford 鈥 i ganol gwlad y crochenwaith 鈥 i wneud gradd uwch mewn cynllunio cerameg.听 Roeddwn i am ddysgu sgiliau diwydiannol o gynhyrchu porslen ac efelychu鈥檙 technegau hynny.听 Treuliais gyfnod yn Stiwdio Gynllunio Wedgewood a chael y cyfle i archwilio鈥檜 archifau.鈥听 Roedd hynny yn 2007-2009.
Mae鈥檔 defnyddio鈥檙 clai china cain o Stoke-on-Trent yn stiwdio 鈥淔ireworks鈥, Glanyrafon, Caerdydd, gan addurno鈥檌 llestri, y tu mewn ac allan, gyda鈥檙 lluniau bychain a ysbrydolwyd gan addurniadau llestri Nantgarw, yr adar a鈥檙 anifeiliaid mewn blychau gwydr a welodd yn Aberystwyth a straeon ei phlentyndod.
Treuliodd amser yn astudio鈥檙 casgliadau llestri sydd mewn amgueddfeydd ac orielau fel y 鈥淰ictoria & Albert鈥 yn Llundain, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a Glyn y Weddw.听
Cafodd gomisiwn eleni i ddarparu arddangosfa o鈥檌 gwaith ar gyfer Oriel Gelf Rhuthun fel rhan o gynllun Collect.听 Aed a鈥檙 arddangosfa honno wedyn i orielau eraill, yn eu plith Oriel Saatchi yn Llundain.听听
Arddangoswyd ei gwaith mewn amryw wledydd tramor gan gynnwys Arddangosfa SOFA (Sculpture Objects & Functional Art) yn Chicago
Mae ei gwaith yn adlewyrchu traddodiadau cyffyrddus yr hen gartrefi Cymreig, a wedi ei hysbrydoli gan y mathau o lestri y byddai pobol yn eu casglu 鈥檚lawer dydd 鈥 ond gan fynd gamre ymhellach.听
Dan yr wyneb fel welir 么l archwilio鈥檙 hen ddelweddau, yr herio a鈥檙 addasu, weithiau鈥檔 chwareus dro arall yn anghysurus a chynhyrfus.听 Mae鈥檔 ymestyn yr hen themau ond gan gynnal manylder cain a鈥檙 mwynder sy鈥檔 nodwedd mor hanfodol o鈥檌 gwaith.听
Arddangosir ei gwaith o Ragfyr 9, 2011, tan Fawrth 10, 2012.听